Peter Karrie

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Peter Karrie
Peterkarrie.gif
Peter Karrie
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Peter Karrie
Ganwyd (1946-08-10) 10 Awst 1946 (72 oed)
Bro Morgannwg, Cymru
Cerddoriaeth Sioeau cerdd
Galwedigaeth(au) Canwr, actor
Blynyddoedd 1975 - presennol
Label(i) recordio Fog & Gas, FlyRy Records
Gwefan PeterKarrie.com

Canwr Cymreig sydd fwyaf adnabyddus am chwarae'r prif ran yn sioe gerdd Andrew Lloyd Webber, The Phantom of the Opera, ydy Peter Karrie (ganed 10 Awst 1946). Chwaraeodd y rhan hwn yn Llundain, Toronto, Vancouver, Singapôr, Hong Cong ac ar daith yn y Deyrnas Unedig ym Mradford, a Manceinion. Cafodd ei ddewis fel eu hoff Phantom gan aelodau'r The Phantom of the Opera Appreciation Society, yn 1994 ac yn 1995.

Magwyd Karrie yng Nghymru, lle mae ef fwyaf adnabyddus. Dechreuodd ei yrfa gerddorol fel prif ganwr y grŵp pop, "Peter and the Wolves", cyn mynd ymlaen i serennu mewn nifer o sioeau yn West End Llundain. Mae rhain yn cynnwys Les Misérables (ar dair achlysur gwahanol) a Chess. Mae ef hefyd yn gymrawd o Goleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae'n briod a chanddo chwech o blant.