Perthyn.com
Gwefan rhwydweithio cymdeithasol oedd Perthyn.com, yn debyg i MySpace a Bebo. Lleoleiddwyd rhyngwyneb Perthyn.com i'r Gymraeg, ac o'r herwydd, Cymraeg oedd yr unig iaith a ddefnyddwyd ar y wefan.
Crëwyd y wefan gan gyn-actor, Luke Williams, o Gaernarfon ym mis Medi 2007, er mwyn cyflenwi rhwydwaith Gymraeg gan fod gwefannau megis MySpace a Facebook heb ymateb at ddeisebau yn gofyn iddynt i wneud hyn.[1]
Erbyn 2010, roedd y wefan wedi cau lawr.
Nodweddion[golygu | golygu cod]
- Proffil unigol i bob defnyddiwr
- Gallwch uwchlwytho lluniau
- Mae modd creu blogiau
Dolenni[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.