Pentir Flamborough
Gwedd
| Math | pentir, penrhyn |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Flamborough |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dwyrain Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Gerllaw | Môr y Gogledd |
| Cyfesurynnau | 54.116°N 0.0831°W |
| Cod OS | TA252706 |
![]() | |
Pentir o glogwyni calchfaen yn 400 troedfedd o uwchder yn Nwyrain Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Pentir Flamborough[1] (Saesneg: Flamborough Head).[2] Mae'n ymwthio i Fôr y Gogledd rhwng trefi Bridlington a Filey.
-
Clogwyni Flamborough
Mae'n safle pwysig i adar y môr. Yn yr haf, mae miloedd o garfilod, huganod, piod y môr, hwyaid mwythblu, mulfrain[3] a gwylanod yn bridio.[4]
Codwyd goleudy ar ben y clogwyni ym 1669, ond heb ei ddefnyddio. Codwyd yr un presennol ym 1806, yn costio £8,000.[3]
-
Y twr sialc a adeiladwyd ym 1669, y goleudy cyflawn hynaf sydd wedi goroesi yn Lloegr
-
Y goleudy presennol, a adeiladwyd ym 1806
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gareth Jones (gol.), Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999)
- ↑ British Place Names; adalwyd 17 Chwefror 2021
- ↑ 3.0 3.1 Tudalen Flamborough ar wefan BBC
- ↑ Gwefan Gwarthodfa Natur Clogwyni Flamborough
