Penrhyn Kanin

Oddi ar Wicipedia
Penrhyn Kanin
Mathgorynys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOcrwg Ymreolaethol Nenets Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd10,500 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Barents, Môr Gwyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau67°N 45°E Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Penrhyn Kanin.
Penrhyn Kanin - map Byddin yr UDA o 1956.

Mae Penrhyn Kanin  (Rwseg: Канин полуостров) yn benrhyn mawr yn Okrug Hunanlywodraethol Nenets, Rwsia. Lledred: 68° hydred: 45°

Mae wedi'i amgylchynu gan y Môr Gwyn i'r gorllewin a Môr Barents i'r gogledd a'r dwyrain. Shoyna yw un o'r ychydig gymunedau ar y penrhyn.

Ffawna[golygu | golygu cod]

O ran morfilod, morfilod beluga yw'r mwyaf cyffredin a welir. Gwelir hefyd morfilod sberm gwryw yn ogystal ar brydiau.[1]

Ieir bach yr haf/glöynnod byw[golygu | golygu cod]

Mae 29 math o löyn byw yn y twndra goedwigol a 14 rhywogaeth yn y twndra îs-arctig.[2] Mae'r data ar y ffawna a dosbarthiad y rhywogaethau twndra goedwigol  Penrhyn Kanin yn gyffredinol yn nodweddiadol o'r parth naturiol hyn. Y rhywogaethau mwyaf niferus yw'r Erebia disa, Oeneis norna, Clossiana freija, Bag napi, a'r Vacciniina optilete. Y rhywogaethau amlycaf yn yr ardaloedd twndra deheuol yw'r Erebia euryale, Erebia pandrose, a Boloria aquilonaris, sy'n cyd-fynd â chanlyniad ymchwil a wnaed yn 1903.[3] Mae niferoedd uchel o E. pandrose yn un o nodweddion penodol rhan ogleddol Penrhyn Kanin ac Ynys Kolguev, gan dynnu sylw at y cysylltiad ym miota'r tiriogaethau hyn â rhanbarthau îs-artig Fennoscandia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://spo.nmfs.noaa.gov/mfr464/mfr46410.pdf
  2. Bolotov, I. N. (2012). "The Fauna and Ecology of Butterflies (Lepidoptera, Rhopalocera) of the Kanin Peninsula and Kolguev Island". Entomological Review 92 (3): 296–304. doi:10.1134/S0013873812030062.
  3. Poppius, B. (1906). "Beiträge zur Kenntniss der Lepidopteren-Fauna der Halbinsel Kanin". Acta Soc. Fauna Flora Fennica B 28 (3): 1–11.