Gwyn gwythiennau gwyrddion

Oddi ar Wicipedia
Gwyn gwythiennau gwyrddion
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Pieridae
Genws: Pieris
Rhywogaeth: P. napi
Enw deuenwol
Pieris napi
(Linnaeus, 1758)
Tiriogaeth y Pieris napi yn Worringer Bruch, yr Almaen

Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gwyn gwythiennau gwyrddion, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gwynion gwythiennau gwyrddion; yr enw Saesneg yw Green-veined White, a'r enw gwyddonol yw Pieris napi.[1][2] Mae i'w ganfod ledled Ewrop ac Asia gan gynnwys India.

Caiff ei ganfod mewn caeau a meysydd agored, tamp ac nid yw i'w weld yn aml mewn gardd. Gall fyw hyd at 2,600 m uwch lefel y môr. Un smotyn sydd gan yr oedolyn gwryw ar ei adenydd blaen, ond mae gan y fenyw ddwy. Mae'r siani flewog yn treulio'r gaeaf fel chwiler. Yn Ewrop ceir dwy neu dair cenhedlaeth ac maent i'w gweld ar adain rhwng Ebrill a Medi.

Glöyn byw gwyn gwythiennau gwyrddion

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Bwyd[golygu | golygu cod]

Adain uchaf

Caiff yr wyau eu dodwy ar nifer o blanhigion, gan gynnwys: Sisybrium officinale, Alliaria petiolata, Cardamine pratense, berw dŵr (Rorippa nasturtium-aquaticum), Sinapis arvensis, Cardamine amara, bresych gwyllt (Brassica oleracea) a rhuddugl gwyllt (Raphanus raphanistrum). Oherwydd hyn, nid yw byth yn cael ei gyfri fel pla mewn gardd. Cuddliw o wyrdd sydd gan y siani flewog a dail yn unig mae'n ei fwyta, nid y blodau.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gwyn gwythiennau gwyrddion yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.