Pelen plasma

Oddi ar Wicipedia
Effaith gwrthrych dargludo (llaw) sy'n cyffwrdd â'r belen plasma

Cynhwysydd gwydr clir sydd wedi'i lenwi â chymysgedd o wahanol nwyon nobl gydag electrod foltedd uchel yng nghanol y cynhwysydd yw pelen plasma, glôb plasma neu lamp plasma.

Pan fydd foltedd yn cael ei ddefnyddio, caiff plasma ei ffurfio yn y cynhwysydd. Mae ffilamentau plasma yn ymestyn o'r electrod mewnol i'r ynysydd gwydr allanol, gan wneud iddo ymddangos fel petai nifer o belydrau o olau lliw. Roedd pelenni plasma yn fwyaf poblogaidd fel newyddebau yn y 1980au.[1]

Dyfeisiwyd y lamp plasma gan Nikola Tesla (1856-1943) yn ystod ei arbrawf gyda cherryntau amledd uchel mewn tiwb gwydr gwag er mwyn astudio ffenomenau foltedd uchel.[2] Galwodd Tesla ei ddyfais yn “diwb gollwng nwy anadweithiol”.[3] Datblygwyd dyluniad y belen neu lamp plasma fodern wedyn gan Bill Parker, myfyriwr yn MIT.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gache, Gabriel (31 Ionawr 2008). "How do plasma lamps work?". Softpedia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Chwefror 2009. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Tesla, Nikola (1892). "Experiments with Alternate Currents of High Potential and High Frequency". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mawrth 2010. Cyrchwyd July 26, 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Barros, Sam (2002). "PowerLabs Plasma Globes Page". Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 3, 2009. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)