Pareidolia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mynyddfor (Eryri) a elwir hefyd yn 'Fynydd yr Eliffant', o'r gogledd.
Ffotograff lloeren o mesa yn rhanbarth Cydonia o Mawrth, sy'n aml yn cael ei alw'n "Wyneb Mawrth" ac yn cael ei gyfeirio ato fel tystiolaeth o breswyliad allfydol. Mae lluniau cydraniad uchel mwy diweddar o nifer o safbwyntiau gwahanol wedi dangos bod y 'wyneb' mewn gwirionedd wedi'i ffurfio'n naturiol o garreg.
Salem, darluniad gan Sydney Curnow Vosper, y diafol yn y clogyn a'r ellyll yn sipio drwy'r ffenestr yw'r enghreifftiau mwyaf amlwg o pareidolia Cymreig

Mae Pareidolia (/pærɪˈdliə/ /pærɪˈdliə / parr-i-DOH-lee-ə) yn ffenomen seicolegol ble mae'r meddwl yn ymateb i stimulus, delwedd neu sain fel arfer, trwy ganfod patrwm cyfarwydd er nad yw'n bodoli mewn gwirionedd. 

Enghreifftiau cyffredin yw delweddau ymddangosiadol o anifeiliaid, wynebau, neu wrthrychau mewn ffurfiannau cwmwl, y Dyn yn y Lleuad, tybiedig, Hen Wr y Lleuad, Cwningen y Lleuad, negeseuon cudd o fewn i gerddoriaeth sydd wedi'i recordio ac yn cael ei chwarae am yn ôl neu a gyflymder cynt neu arafach nag arfer, a chlywed lleisiau mewn synau annisgwyl fel sŵn tymherwr neu ffan.[1]

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gair yn tarddu o'r geiriau Groeg para (παρά, "ger, wrth ymyl, yn lle [rhywbeth]" — sy'n golygu rhywbeth gwallus neu anghywir yn yr achos hwn - a'r enw eidōlon (εἴδωλον "delwedd, ffurf, siap" — bachigol eidos).

Ffenomena perthnasol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae amryw o hen arferion darogan Ewropeaidd yn cynnwys elfennau o ddehongli cysgodion sy'n cael eu taflu gan wrthrychau. Er enghraifft, mewn molybdomanaeth, mae siap yn cael ei greu ar hap trwy arllwys tin toddedig i ddŵr oer a'i ddehongli ar sail y cysgod mae'n ei daflu mewn golau cannwyll.

Mae person cysgod (hefyd yn cael ei adnabod fel ffigwr cysgod, bod cysgodol neu fas du)  yn aml yn cael ei weld fel pareidolia. Mae darn o gysgod yn cael ei weld fel ffigwr byw, yn arbennig os ydynt wedi'u dehongli gan gredwyr yn y goruwchnaturiol fel presenoldeb ysbryd neu endid arall.[2]

Pareidolia yw'r hyn sydd, yn ôl rhai amheuwyr, yn achosi i bobl gredu eu bod wedi gweld ysbrydion.[3]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jaekel, Philip. "Why we hear voices in random noise". Nautilus. http://nautil.us/blog/why-we-hear-voices-in-random-noise.
  2. Ahlquist, Diane (2007). The Complete Idiot's Guide to Life After Death. USA: Penguin Group. p. 122. ISBN 978-1-59257-651-7. 
  3. Carroll, Robert Todd (June 2001). "pareidolia". skepdic.com. http://skepdic.com/pareidol.html.