Pancho Villa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pancho Villa
Pancho Villa bandolier crop.jpg
Llun ystrydebol o Pancho Villa—y sombrero, y mwstas, a'r bandolîr—yn sefyll gerbron gwersyll o'i herwfilwyr, rhywbryd yn ystod hanner cyntaf Chwyldro Mecsico.
FfugenwPancho Villa, Francisco Villa Edit this on Wikidata
GanwydJosé Doroteo Arango Arámbula Edit this on Wikidata
5 Mehefin 1878 Edit this on Wikidata
San Juan del Río Edit this on Wikidata
Bu farw20 Gorffennaf 1923 Edit this on Wikidata
Parral Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, partisan Edit this on Wikidata
SwyddGovernor of Chihuahua Edit this on Wikidata
Llofnod
Pancho Villa signature.svg

Chwyldroadwr a chadfridog Mecsicanaidd oedd Francisco "Pancho" Villa (5 Mehefin 187820 Gorffennaf 1923) a fu'n un o'r prif arweinwyr herwfilwrol yn ystod Chwyldro Mecsico (1910–20).

Ganed José Doroteo Arango Arámbula yn Hacienda de Río Grande, San Juan del Río, yn nhalaith Durango, Mecsico. Gweithiwr fferm oedd ei dad, a fu farw pan oedd José yn blentyn. Ceir nifer o straeon am ei fywyd ifanc, ond mae'r union fanylion yn ansicr. Yn ôl un chwedl, aeth ar ffo yn y mynyddoedd wedi iddo ladd un o dirfeddianwyr yr hacienda, yn ddial am ymosodiad ar ei chwaer.[1] Herwr felly oedd Villa ers ei ieuenctid.

Ym 1910, ar ddechrau Chwyldro Mecsico, ymunodd Villa â gwrthryfel Francisco Madero yn erbyn yr unben Porfirio Díaz. Ymddisgleiriodd Villa ar faes y gad, a chyfranodd at fuddugoliaeth Madero yn erbyn y lluoedd ffederal. Yn sgil miwtini yn Juárez ym 1912, ymunodd un arall o gadfridogion Madero, Pascual Orozco, â'r gwrthryfel yn erbyn yr arlywydd newydd. Galwodd Madero ar Villa i ostegu'r gwrthryfel. Yn ddiweddarach, penderfynodd Villa encilio o'r ffrae, a chafodd ei arestio am wrthgilio o'r fyddin gan Victoriano Huerta a'i garcharu. Ffoes i'r Unol Daleithiau.

Wedi i Huerta dymchwel Madero a chipio'r arlywyddiaeth yn Chwefror 1913, fe wynebodd gwrthryfel o sawl carfan, yn bennaf y Cyfansoddiadwyr dan arweiniad Venustiano Carranza ac Álvaro Obregón. Dychwelodd Villa i Chihuahua, ac yno dechreuodd recriwtio'i fyddin, División del Norte, gan fanteisio ar y rheilffyrdd yng ngogledd Mecsico. Cytunodd Villa i ymuno ag ymgyrch Carranza, ac erbyn diwedd y flwyddyn enillodd reolaeth dros holl diriogaeth Chihuahua a datganodd ei hun yn llywodraethwr y dalaith honno. Roedd yn arweinydd hynod o boblogaidd ymhlith y werin, a chyhoeddodd sgrip o'r enw "peso Villa" i dalu ei filwyr ac i brynu adnoddau. Daeth enw Villa yn gyfarwydd ar draws Mecsico a thu hwnt, a daeth newyddiadurwyr a gwneuthurwyr ffilmiau iddo. Ym Mehefin 1914, cafodd Villa un o'i fuddugoliaethau mwyaf yn erbyn y lluoedd ffederal ym Mrwydr Zacatecas; er gwaethaf, gwrthododd Carranza ganiatáu i Villa arwain yr ymdaith olaf i Ddinas Mecsico. Llwyddodd y Cyfansoddiadwyr fwrw Huerta o'r wlad a chipio'r llywodraeth, ond hynny ar draul balchder Villa.

Erbyn Medi 1914, penderfynodd Villa newid ei deyrngarwch unwaith eto: ymwrthododd â Carranza ac Obregón, ac ymgynghreiriodd ag Emiliano Zapata, y brif arweinydd herwfilwrol yn ne'r wlad. Ar 28 Tachwedd 1914, cyfarfu Villa a Zapata am y tro cyntaf, ac arweiniodd eu lluoedd i mewn i Ddinas Mecsico. Chwe mis yn ddiweddarach, trodd yr ymladd yn erbyn yr herwfilwyr: enillodd Obregón ddwy fuddugoliaeth yn erbyn Villa yn Celaya yn Ebrill 1915. Gostyngodd gwerth "peso Villa", a bu'n rhaid iddo droi at ddifeddiannu a chribddail i gyflenwi ei fyddin. Yn Rhagfyr 1915, wedi i'r Cyfansoddiadwyr drechu División del Norte ym Mrwydr Agua Prieta gyda chefnogaeth Unol Daleithiau America ar 1 Tachwedd, datganodd Villa ryfel yn erbyn yr Americanwyr. Lansiwyd sawl cyrch yn erbyn Americanwyr ym Mecsico a threfi ar ochr draw'r ffin â'r Unol Daleithiau, gan gynnwys Columbus, New Mexico, ym Mawrth 1916. Ymatebodd yr Unol Daleithiau drwy anfon "yr Alldaith Gosb" dan y Cadfridog John J. Pershing i chawlu ysbeilwyr Villa.

Ar 27 Mawrth 1916, yn ystod brwydr dros reolaeth Guerrero, saethwyd Villa yn ei goes gan filwyr o'i fyddin ei hun a oedd yn bwriadu ffoi i'r lluoedd ffederal. Achubwyd Villa gan ei ddilynwyr ffyddlonach, a fe'i dygwyd i wella o'i anafiadau yn Santa Cruz, ger Parral, yn agos i'r ffin â Durango. Dychwelodd i faes y gad ar 15 Medi 1916, gan gipio Dinas Chihuahua gyda 2000 o'i ddynion. Cynyddodd niferoedd ei fyddin ymhellach wedi iddo gyhoeddi ei "Faniffesto i'r Genedl" yn Hydref. Ym Mehefin 1919, gyrrwyd y Villistas ar ffo wedi i luoedd Americanaidd ymyrryd ym Mrwydr Juárez. Gwrthryfeloedd Obregón yn erbyn yr Arlywydd Carranza, a fu farw ym Mai 1920, a phenodwyd Adolfo de la Huerta yn arlywydd dros dro; cytunodd Villa i ildio'i arfau yng Ngorffennaf 1920, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach etholwyd ei hen elyn Obregón yn arlywydd. Ar 20 Gorffenaf 1923, llofruddiwyd Villa.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Pancho Villa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Awst 2022.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Paco Ignacio Taibo II, Pancho Villa: Una biografía narrativa (Dinas Mecsico: Planeta, 2006).