Pam?
Awdur | Dana Edwards |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 25/07/2016 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781784612948 |
Genre | Ffuglen |
Nofel gan Dana Edwards yw Pam? a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Mae Pam? yn dilyn tri ffrind wrth iddynt adael coleg a dechrau gwneud eu ffordd yn y byd yn y degawd cythryblus a chyffrous sy'n arwain at sefydlu Cynulliad Cymru. Mae'r tri yn rhannu'r un pen-blwydd, ond yn rhannu cyfrinach hefyd - cyfrinach sy'n bygwth dinistrio pob un ohonynt.
Mae Dana Edwards yn adnabyddus yn ei hardal ac yn gweithio ar raglenni dogfennol fel ymchwilydd i Gwmni Unigryw. Mae hefyd yn gyfarwydd â'r byd marchnata wedi gweithio fel Swyddog Marchnata Cwmni Theatr Arad Goch a Swyddog Marchnata Ffagl Gobaith.