Padua

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yn y Veneto yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Padua, (Eidaleg: Padova, Lladin: Patavium. Mae'n brifddinas Talaith Padova, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 211,985.

Saif y ddinas ar Afon Bacchiglione, 40 km i'r gorllewin o Fenis a 29 km i'r de-ddwyrain o Vicenza. Mae traddodiad ei bod wedi ei sefydlu yn 1183 CC gan y tywysog Antenor o Gaerdroea. Daeth yn municipium Rhufeinig yn 45 CC neu 43 CC.

Yn 601, gwrthryfelodd y ddinas yn erbyn y Lombardiaid, ac wedi gwarchae o 12 mlynedd, cipiwyd a llosgwyd hi gan Agilulf, brenin y Lombardiaid. Yn 899 anrheithiwyd Padua gan yr Hwngariaid. Sefydlwyd y brifysgol, y drydedd yn yr Eidal, yn 1222. Daeth dan reolaeth Fenis yn 1405, a pharhaodd hyn hyd 1797 heblaw am gyfnodau byr.

Ymhlith atyniadau Padua mae Capel Scrovegni (Eidaleg: Cappella degli Scrovegni), gyda cyfres o luniau fresco gan Giotto. Gardd Fotanegol Padua, Orto Botanico di Padova, a sefydlwyd yn 1545, yw'r hynaf yn y byd, ac mae wedi ei henwi'n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.

Pobl enwog o Padua[golygu]

Padua yw'r cefndir i ddrama William Shakespeare, The Taming of the Shrew.

Palazzo della Ragione.