Owen Badger

Oddi ar Wicipedia
Owen Badger
Enw llawn Owen Badger
Dyddiad geni (1871-11-03)3 Tachwedd 1871
Man geni Llanelli
Dyddiad marw 17 Mawrth 1939(1939-03-17) (67 oed)
Lle marw Llanelli
Gyrfa rygbi'r gyngrair
Safle Olwr
Clybiau proff.
Blynydd Clwb / tîm Capiau (pwynt)
1897-? Swinton
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Canolwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau

?-1897
Seaside Stars
Llanelli
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1895-1896  Cymru 4 0

Roedd Owen Badger (3 Tachwedd 1871 - 17 Mawrth 1939) [1] yn ganolwr rygbi ryngwladol a chwaraeodd rygbi'r undeb i Lanelli, ac a gafodd ei gapio pedair gwaith i Gymru.[2] Yn ddiweddarach fe newidiodd gòd, gan chwarae rygbi'r gynghrair proffesiynol i Swinton.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Badger yn Llanelli, yn blentyn i Henry Badger, gweithiwr copr, a Mary Ann (née Charles) ei wraig, fe'i haddysgwyd mewn ysgol elfennol yn unig. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth yn gweithio'r rholer yn y gwaith tunplat.[3] Ym 1893 priododd Martha Thomas. Bu iddynt tri o blant.

Bu farw yn Llanelli yn 67 oed.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Daeth Badger i amlygrwydd yn chwarae i Lanelli. Roedd yn rhan o'r tîm a enillodd Gwpan Her De Cymru yn ystod tymor 1893/94 dan gapteiniaeth Ben James. Wrth chwarae i Lanelli, dewiswyd Badger gyntaf i gynrychioli Cymru mewn gêm yn erbyn Lloegr fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1895. O dan gapteiniaeth Arthur Gould, collodd Cymru'r gêm 6-14, yn bennaf oherwydd chwarae llawer gwell gan blaenwyr Lloegr. Er ei fod yn ymddangos ar yr ochr golli, ail-ddewiswyd Badger ar gyfer y gêm nesaf. Roedd gêm yr Alban yn un llawer agosach, ond collodd Cymru’r ornest hon hefyd, er i gêm olaf y twrnamaint gartref i Iwerddon weld Cymru’n fuddugol diolch i drosiad Billy Bancroft o gais Tom Pearson. Yr ornest hon oedd unig ymddangosiad Badger ar dîm rhyngwladol buddugol mewn rygbi'r undeb. Roedd ei gêm amatur olaf i Gymru yng ngêm agoriadol y Bencampwriaeth y tymor olynol. Roedd hi'n gêm ddiflas i Gymru a Badger, oherwydd yn ystod 15 munud cyntaf yr ornest, fe dorrodd asgwrn ei goler mewn tacl a gorfodwyd ef i adael y cae.[4] Gan nad oedd hawl defnyddio eilwyr yn y cyfnod yma o hanes rygbi, bu'n rhaid i Gymru chwarae gyda dim ond 14 dyn a gwelwyd saith cais yn cael eu sgorio yn eu herbyn heb ateb. Collodd Badger ei le ar gyfer y gêm nesaf. Rhoddwyd ei le i Gwyn Nicholls, un o'r trichwarterwyr gorau i chware rygbi i Gymru yn ei ddydd.

Tîm Cymru 1895 a wynebodd Loegr. Mae Badger yn y rheng flaen, chwith pellaf.

Ni wyddys a fyddai Badger wedi adennill ei safle yn nhîm Cymru, gan iddo newid cod i rygbi'r gynghrair broffesiynol ym 1897. Ei ffi am ymuno â Swinton oedd £75, gyda ffi gêm o £ 2/10 swllt yr wythnos. Arhosodd teulu Badger yng Nghymru tra roedd yn chwarae ym Manceinion. Achosodd hyn sgil effaith i Swinton. Cafodd y tîm fforffed o ddau bwynt pan gollodd Badger gêm i ymweld â'i blant sâl yng Nghymru. Ar ôl dychwelyd, anghofiodd Swinton ofyn caniatâd gan Undeb y Gogledd (y Gynghrair Bêl-droed Rygbi (RFL bellach) i ailgyflwyno Badger i'r tîm, a chosbwyd y clwb y ddau bwynt.[5]

Wedi ymddeol o chwarae rygbi bu Badger yn gwasanaethu fel dyfarnwr gwirfoddol ar gyfer gemau clybiau haen isaf leol yn ardal, Llanelli. Rhywbeth a chododd gwrychyn rai, gan fod y ffaith ei fod wedi derbyn tâl am chwarae yn golygu nad oedd ganddo'r hawl i chware unrhyw ran bellach yng ngêm yr undeb.[6]

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Godwin, Terry (1984). The International Rugby Championship 1883-1983. Llundain: Willows Books. ISBN 0-00-218060-X.
  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Owen Badger player profile Scrum.com
  2. Welsh Rugby Union player profiles[dolen marw]
  3. "FOOTBALLI - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-08-27. Cyrchwyd 2021-03-04.
  4. Godwin (1984), tud 46.
  5. Collins, Tony; Rugby's Great Split: Class, Culture and the origins of Rugby League Football, Frank Cass Publishers, (1998) pg 172. ISBN 0-7146-4424-2
  6. "OWEN BADGER AS REFEREE - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-01-14. Cyrchwyd 2021-03-04.