Oumar Niasse

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Oumar Niasse
Oumar Niasse.JPG
Ganwyd 18 Ebrill 1990 Edit this on Wikidata
Ouakam Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Senegal Edit this on Wikidata
Galwedigaeth pêl-droediwr Edit this on Wikidata
Taldra 182 Centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau 82 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/au US Ouakam, SK Brann, Akhisar Belediyespor, FC Lokomotiv Moscow, Everton F.C., Senegal national under-23 football team, Tîm pêl-droed cenedlaethol Senegal, Tîm pêl-droed cenedlaethol Senegal, Hull City A.F.C., C.P.D. Dinas Caerdydd Edit this on Wikidata
Safle asgellwr Edit this on Wikidata

Mae Oumar Niasse (ganwyd 18 Ebrill 1990) yn beldroediwr sy'n chwarae i C.P.D. Dinas Caerdydd ar fenthynciad o Everton F.C. Mae'n enedigol o Ouakam, Senegal.

Gyrfa Clwb[golygu | golygu cod y dudalen]

Ouakam[golygu | golygu cod y dudalen]

Llofnododd ei gytundeb proffesiynol cyntaf gydag Ouakam yn 2008 ac yn nhymor 2008-09, helpodd ei dîm i ennill teitl yr Ail Gynghrair trwy sgorio 21 o nodau.

Akhisar Belediyespor[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd â gwersyll haf Clwb Süper Lig Twrcaidd Akhisar Belediyespor a llofnodwyd ef yn barhaol gyda nhw ym mis Awst 2013. Sgoriodd Niasse ar ei gem gyntaf yn Nhwrci, a gorffenodd y tymor gyda 15 o goliau.

Lokomotiv Moscow[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn tymor 2014-15, llofnododd Niasse â chlwb Rwsia Lokomotiv Moscow yng Ngorffennaf 2014 am ffi trosglwyddo o € 5.5 miliwn

Everton[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymunodd Niasse â chlwb Uwch Gynghrair Lloegr Everton F.C. ar 1 Chwefror 2016 am ffi drosglwyddo o tua £ 13.5 miliwn. Ym mis Hydref 2016, cafodd Niasse ei osod yn y sgwad dan 23 ac fe gafodd ei locer personol ei ddirymu.

Hull City[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 13 Ionawr 2017, llofnododd Niasse gytundeb ar fenthyg gyda Hull City tan ddiwedd tymor 2016-17. Daeth ei gôl gyntaf i Hull ar 26 Ionawr yng nghystadleuaeth ail rownd derfynol Cwpan EFL yn erbyn Manchester United. Sgoriodd Niasse ei gôl Uwch Gynghrair gyntaf mewn buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Lerpwl ar 4 Chwefror.

Yn ol yn Everton[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl dychwelyd i Everton, gwnaeth Niasse ei ymddangosiad cyntaf ers iddo ddychwelyd, yn gêm drydedd rownd Cwpan EFL yn erbyn Sunderland ym Goodison Park ar 20 Medi 2017, gan sgorio trydydd nod Everton o ennill 3-0. Ar 23 Medi, sgoriodd Niasse ddau gôl yn erbyn AFC Bournemouth mewn ennill 2-1, gan helpu Everton i ddod yn ôl o nod i lawr. Ar 5 Tachwedd, sgoriodd Niasse gôl gyntaf Everton mewn ennill cartref 3-2 yn erbyn Watford.

Caerdydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 18 Ionawr 2019, ymunodd Niasse â thîm yr Uwch Gynghrair C.P.D. Dinas Caerdydd ar fenthyciad am weddill y tymor.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]