Osteomalasia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Osteomalasia
Calcitriol.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol Clefyd Edit this on Wikidata
Math Clefyd adlunio asgwrn edit this on wikidata
Dynodwyr
Thesawrws NCI C26838, c26838 edit this on wikidata
Freebase /M/02npcz edit this on wikidata
MeSH D010018 edit this on wikidata
UMLS CUI C0029442, c0029442 edit this on wikidata
Arall

Osteomalasia yw meddaliad yr esgyrn sy'n cael ei achosi gan wanychiad metaboledd yr esgyrn yn bennaf o ganlyniad i lefelau annigonol o ffosffad, calsiwm a fitamin D, neu oherwydd atsugniad calsiwm. Mae gwanychiad metaboledd esgyrn yn achosi mwneiddiad esgyrn annigonol.  Mae osteomalasia mewn plant yn cael ei adnabod fel y llechau, ac oherwydd hynny, mae'r defnydd o'r term "osteomalasia" yn aml yn cael ei gyfyngu i'r clefyd ar ffurf mwy ysgafn mewn oedolion. Mae arwyddion a symptomau yn gallu cynnwys poenau trwy'r corff, gwanhau'r cyhyrau, ac esgyrn bregus. Yn ogystal a lefelau systemig isel o ïonau mwnol sy'n angenrheidiol i fwneiddiad esgyrn a danned, mae protinau a pheptidau sy'n atal mwneiddiad (megis osteopontin a pheptidau ASARM) yn ymgasglu yng nghroth allgellog yr esgyrn a dannedd, gan fod yn debygol o gyfrannu at achosi hypofwneiddiad y croth (osteomalasia).[1][2][3][4][5]

Mae preswylwyr cartrefi henoed a'r henoed sy'n gaeth i'w catrefi yn arbennig o agored i'r perygl o ddioddef diffyg fitamin D, gan nad ydynt yn gweld llawer o olau haul. Yn ogystal, mae effeithlonrwydd synthesis fitamin D yn y croen ac amsugniad fitamin D yn y coluddyn yn gostwng gydag oedran, gan gynyddu'r risg ymhellach i'r garfan hon o'r boblogaeth. Mae grwpiau eraill sy'n wynebu risg yn cynnwys unigolion sy'n dioddef o gamamsugniad yn dilyn triniaeth dargyfeirio gastrogoluddol neu clwy'r ceudod, ac unigolion sy'n ymfudo o hinsawdd boeth i hinsawdd oer, yn arbennig menywod sy'n gwisgo feliau neu wisgoedd sy'n atal yr haul.[6]

Ataliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir atal osteomalasia trwy dderbyn digon o fitamin D a calsiwm.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Salmon, B; Bardet, C; Coyac, BR; Baroukh, B; Naji, J; Rowe, PS; Opsahl Vital, S; Linglart, A et al. (August 2014). "Abnormal osteopontin and matrix extracellular phosphoglycoprotein localization, and odontoblast differentiation, in X-linked hypophosphatemic teeth.". Connective tissue research 55 Suppl 1: 79–82. doi:10.3109/03008207.2014.923864. PMID 25158186.
  2. Boukpessi, T; Hoac, B; Coyac, BR; Leger, T; Garcia, C; Wicart, P; Whyte, MP; Glorieux, FH et al. (21 November 2016). "Osteopontin and the dento-osseous pathobiology of X-linked hypophosphatemia.". Bone 95: 151–161. doi:10.1016/j.bone.2016.11.019. PMID 27884786.
  3. Barros, NM; Hoac, B; Neves, RL; Addison, WN; Assis, DM; Murshed, M; Carmona, AK; McKee, MD (March 2013). "Proteolytic processing of osteopontin by PHEX and accumulation of osteopontin fragments in Hyp mouse bone, the murine model of X-linked hypophosphatemia.". Journal of Bone and Mineral Research 28 (3): 688–99. doi:10.1002/jbmr.1766. PMID 22991293.
  4. McKee, MD; Hoac, B; Addison, WN; Barros, NM; Millán, JL; Chaussain, C (October 2013). "Extracellular matrix mineralization in periodontal tissues: Noncollagenous matrix proteins, enzymes, and relationship to hypophosphatasia and X-linked hypophosphatemia.". Periodontology 2000 63 (1): 102–22. doi:10.1111/prd.12029. PMC 3766584. PMID 23931057. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3766584.
  5. Boukpessi, T; Gaucher, C; Léger, T; Salmon, B; Le Faouder, J; Willig, C; Rowe, PS; Garabédian, M et al. (August 2010). "Abnormal presence of the matrix extracellular phosphoglycoprotein-derived acidic serine- and aspartate-rich motif peptide in human hypophosphatemic dentin.". The American Journal of Pathology 177 (2): 803–12. doi:10.2353/ajpath.2010.091231. PMC 2913338. PMID 20581062. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2913338.
  6. Kennel, KA; Drake, MT; Hurley, DL (August 2010). "Vitamin D deficiency in adults: when to test and how to treat.". Mayo Clinic Proceedings 85 (8): 752-7; quiz 757-8. doi:10.4065/mcp.2010.0138. PMC 2912737. PMID 20675513. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2912737.