Orford Ness

Oddi ar Wicipedia
Orford Ness
Mathtafod Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Dwyrain Suffolk Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.0814°N 1.5586°E Edit this on Wikidata
Rheolir ganyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Map
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata

Tafod graean tua 9.5 milltir (15 km) o hyd ar arfordir Suffolk, Dwyrain Lloegr, yw Orford Ness. Mae'n gysylltu â'r tir mawr yn nhref Aldeburgh ac yn ymestyn ar hyd yr arfordir heibio i dref Orford i orffen yn North Weir Point. Fe'i rhennir o'r tir mawr gan aber Afon Alde, ac fe'i ffurfiwyd gan ddrifft y glannau ar hyd yr arfordir. Daw deunydd y tafod o leoedd ymhellach i'r gogledd, megis Dunwich. Ger ei bwynt canol safai Goleudy Orfordness ar un adeg, a ddymchwelwyd yn 2020 oherwydd y môr yn ymledu.

Mae Orford Ness yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur ac mae'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig. Arferai'r penrhyn gael ei weinyddu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a gynhaliodd brofion milwrol cyfrinachol yno, gan gynnwys arbrofion cynnar ar radar a chydrannau arfau niwclear.

Map o Orford Ness

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]