Drifft y glannau

Oddi ar Wicipedia
Drifft y glannau
Enghraifft o'r canlynolffenomen naturiol Edit this on Wikidata
Mathmudiant Edit this on Wikidata

Proses ddaearegol sy'n cludo gwaddodion (cerrig mân, graean, tywod, clai a silt) ar hyd yr arfordir ac yn gyfochrog â'r draethlin yw drifft y glannau.

Mae'r broses hon yn digwydd yn y ffordd ganlynol. Mae tonnau wedi'u gyrru gan y gwynt mynychaf yn agosáu at draeth ar ongl. Mae'r torddwr (tonnau sy'n symud i fyny'r traeth) yn cario'r gwaddodion i fyny'r traeth ac ar hyd-ddo. Mae'r tynddwr (tonnau sy'n symud yn ôl i lawr y traeth) yn eu cludo yn ôl i lawr y traeth ar ongl sgwâr fel canlyniad disgyrchiant. Yn araf mae'r broses yn symud y gwaddodion ar hyd y traeth gan arwain at erydiad mewn rhai mannau a gwaddodiad mewn mannau eraill.

Drifft y glannau: 1 traeth; 2 môr; 3 cyfeiriad y cerrynt; 4 tonnau sy'n dod i mewn; 5 torddwr; 6 tynddwr

Er mwyn rhwystro erydiad arfordirol trwy'r broses hon, mae grwynau yn aml yn cael eu hadeiladu ar draethau bregus. Mae morglawdd yn amddiffynfa arfordirol fwy sylweddol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Reeve, D; Chadwick, A; Fleming, C (2004). Coastal engineering-processes, theory and design practice (yn Saesneg). Efrog Newydd: Spon Press.