Neidio i'r cynnwys

Ocrwg Ymreolaethol Chukotka

Oddi ar Wicipedia
Ocrwg Ymreolaethol Chukotka
Mathautonomous okrug of Russia, okrug Edit this on Wikidata
PrifddinasAnadyr Edit this on Wikidata
Poblogaeth49,527 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRoman Kopin Edit this on Wikidata
Cylchfa amserKamchatka Time, Asia/Anadyr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg, Chukchi Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDosbarth Ffederal y Dwyrain Pell Edit this on Wikidata
SirRwsia Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd721,481 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Sakha, Oblast Magadan, Crai Kamchatka, Alaska Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau66.25278°N 172.001°E Edit this on Wikidata
RU-CHU Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholDuma of Chukotka Autonomous Okrug Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Chukotka Autonomous Okrug Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRoman Kopin Edit this on Wikidata
Map
Baner Ocrwg Ymreolaethol Chukotka.
Lleoliad Ocrwg Ymreolaethol Chukotka yn Rwsia.

Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Ocrwg Ymreolaethol Chukotka (Rwseg: Чуко́тский автоно́мный о́круг, Chukotsky avtonomny okrug; Chukchi: Чукоткакэн автономныкэн округ, Chukotkaken avtonomnyken okrug), neu Chukotka (Чуко́тка), a leolir yn Nwyrain Pell Rwsia. Ei ganolfan weinyddol yw Anadyr. Poblogaeth: 50,526 (Cyfrifiad 2010).

Mae Ocrwg Ymreolaethol Chukotka yn rhan o ranbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell. Yn y gogledd mae Chukotka ar lan Môr Chukchi a Môr Dwyrain Siberia, sy'n rhannau o Gefnfor yr Arctig; i'r dwyrain ceir Culfor Bering a Môr Bering sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel; yn y de mae'n ffinio gyda Crai Kamchatka ac Oblast Magadan, ac yn y gorllewin gyda Gweriniaeth Sakha. Mae'n cynnwys pwynt mwyaf dwyreiniol Rwsia, sef Gorynys Chukchi.

Sefydlwyd yr ocrwg yn 1930.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.