Novial

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Novial (nov- "newydd" + International Auxiliary Language) yw iaith artiffisial a ddyfeisiwyd gan yr Athro Otto Jespersen, ieithydd o Ddenmarc yn 1928. Dyfeisiodd Novial i fod yn iaith gynorthwyol ryngwladol i gynorthwyo cysylltiadau a chyfeillgarwch rhyngwladol heb ddisodli ieithoedd brodorol. Mae geirfa'r iaith yn seiliedig ar yr ieithoedd Germanaidd a Romáwns, ac mae Saesneg yn dylanwadu ar y gramadeg. Darparwyd cyflwyniad cyntaf i Novial mewn llyfr gan Jespersen, An international language, yn 1928, gyda diweddariad yn ei eiriadur Novial Lexike ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ar ôl marwolaeth Jespersen yn 1943 prin bod sôn am yr iaith - tan y 1990au pan ailddarganfu llawer o bobl ieithoedd artiffisial drwy'r rhyngrwyd.

Enghraifft: 'Gweddi'r Arglwydd' yn Novial[golygu | golygu cod y dudalen]

Nusen Patre, kel es in siele,
mey vun nome bli sanktifika,
mey vun regno veni;
mey on fa vun volio
kom in siele anke sur tere.
Dona a nus disdi li omnidiali pane,
e pardona a nus nusen ofensos,
kom anke nus pardona a nusen ofensantes,
e non dukte nus en tentatione,
ma liberisa nus fro malu.
Amen.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]