Non, je ne regrette rien
Mae Non, je ne regrette rien (ynganiad Ffrangeg: ynganiad: [[nɔ̃ ʒə nə ʁəɡʁɛt ʁjɛ̃]], ystyr "Na, nid wyf yn difaru dim byd") yn gân Ffrangeg a gyfansoddwyd gan Charles Dumont, gyda geiriau gan Michel Vaucaire. Cafodd ei hysgrifennu ym 1956 a daeth i amlygrwydd drwy recordiad Édith Piaf ym 1960 pan dreuliodd saith wythnos ar ben siartiau cerddoriaeth Ffrainc.[1]
Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]
Dywed y cyfansoddwr Charles Dumont yn ei lyfr Edith Piaf, Opinions publiques, gan Bernard Marchois (TF1 Argraffiad 1995), mai teitl gwreiddiol Michel Vaucaire oedd "Non, je ne trouverai rien" ("Na, nid wyf am ddod o hyd i unrhyw beth") a bod y gân wedi ei chyfansoddi'n wreiddiol ar gyfer y canwr Ffrengig poblogaidd Rosalie Dubois. Ond, wrth feddwl am Piaf yn ei chanu, fe newidiodd y teitl i "Non, je ne regrette rien" ("Na, nid wyf yn Difaru Dim").
Cyflwynodd Piaf ei recordiad o'r gân i Leng Dramor Ffrainc.[2] Ar adeg y recordiad, roedd Ffrainc yn brwydro yn Rhyfel Algeria (1954-1962). Wedi methiant Putsch y Cadfridogion yn erbyn yr Arlywydd Charles de Gaulle ac arweinyddiaeth sifil Algeria, mabwysiadwyd y gân gan gefnogwyr y cadfridogion yn y Lleng Dramor. Bellach mae'n cael ei defnyddio fel cân orymdaith y Lleng Dramor.
Geiriau[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae geiriau telynegol y gân yn adleisio rhythm yr alaw yn ôl y mesur Ffrengig traddodiadol nodweddiadol o osod y pwyslais ar y sillaf olaf mewn corfan cyrch dyrchafedig. Mae'r cantor yn dathlu gadael holl bwysau emosiynol ei bywyd blaenorol - y da, y drwg a'r hyll - wrth iddi ganfod cariad newydd. Mae hi'n canu "Rwy'n difaru dim" ac yn dathlu dechrau cyfnod newydd o'i bywyd sy'n golygu bod y gorffennol y tu ôl iddi.[3]
Bras gyfieithiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Na, dim byd
Na, nid wyf yn difaru dim
Nid y pethau da sydd wedi digwydd
Na'r drwg, maent yr un peth i mi
Na, dim byd
Na, nid wyf yn difaru dim
Mae pob dim wedi ei dalu, wedi ei ysgubo i ffwrdd, wedi ei anghofio
Nid wyf yn poeni am y gorffennol!
Rwy'n gosod tân i'm hatgofion
Fy nhrafferthion, fy mhleserau
Dydw i ddim eu hangen mwyach
Rwyf wedi ysgubo ffwrdd cariadon y gorffennol
A'u nwydau crynedig
Wedi'i eu hysgwyd i ffwrdd am byth
Rydw i'n cychwyn drosodd
Na, dim byd
Na, nid wyf yn difaru dim
Nid y pethau da sydd wedi digwydd
Na'r drwg, maent yr un peth i mi
Na, dim byd
Na, nid wyf yn difaru dim
Oherwydd fy mywyd, oherwydd fy llawenydd
Heddiw ... mae'n ail ddechrau gyda thi!
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Edith Piaf - Non, je ne regrette rien ar wefan YouTube
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Archif "InfoDisc" Archifwyd 2008-03-23 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 10 Awst 2018.
- ↑ Cooke, James J. (1990). "Alexander Harrison, Challenging de Gaulle: The O.A.S. and the Counterrevolution in Algeria, 1954–1962". The International Journal of African Historical Studies. Boston: Boston University African Studies Center.
- ↑ Non, Je Ne Regrette Rien – Edith Piaf / French Lyrics and English Translation adalwyd 11 Awst 2018