Nerf sciatic
Enghraifft o: | nerf asgwrn y cefn, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | nerf, branch of sacral nerve plexus, endid anatomegol arbennig |
Rhan o | sacral plexus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffibr nerfol a geir mewn dyn ac anifeiliaid eraill yw'r nerf sciatic (adnabyddir hefyd fel y nerf ischiatic). Mae'n cychwyn yng ngwaelod y cefn ac yn ymestyn drwy'r ffolen ac i lawr yr aelod isaf. Dyma'r nerf sengl lletaf a'r hiraf yn y corff dynol.
Mae'r nerf sciatic yn darparu bron yr holl o groen y coes, cyhyrau cefn y morddwyd, y coes a'r droed. Mae'n deillio o'r nerfau sbinol o L4 i S3. Mae'n cynnwys ffibrau o'r rhaniadau blaen ac ôl y plecsws sacrwm meingefnol (lumbosacral plexus).
Canghennau
[golygu | golygu cod]Mae'r nerf yn rhannu gyda changhenau cymalol a chyhyrol.
- Mae'r canghennau cymalol (rami articulares) yn dod o rhan uchaf y nerf ac yn darparu cymal y clun, gan dyllu drwy rhan ôl eigwpan; wethiau mae'n yn deillio o'r plecsws sacrwm.
- Mae'r canghennau chyhyrol (rami musculares) yn cael eu dosbarthu i'r cyhyrau canlynol yn yr aelodau isaf: biceps femoris, semitendinosus, semimembranosus, ac adductor magnus. Daw'r nerf i ben byr y biceps femoris o ran peroneal cyffredin y sciatic, tra bod y canghennau chyhyrol eraill yn dod o'r rhan tibiaidd, a gellir ei weld mewn achosion pan mae llawr o raniaddau mewn nerf sciatic.
Yn y pen draw, mae'r canghennau chyhyrol yn dod at y nerf tibiaidd a'r nerf peroneal cyffredin, sy'n nerfogi cyhyrau rhan isaf o'r goes. Mae'r nerf tibiaidd yn nerfogi holl gyhyrau'r droed heblaw'r digitorum brevis estyn (sy'n cael ei nerfogi gan y nerf peroneal).
Patholeg
[golygu | golygu cod]Adnabyddir y poen a achosir gan gywasgiad cyffredinol ac/neu enynfa y nerf sciatic fel problem yng ngwaelod y cefn, gelwir y symptomau yn sciatica. Mae achosion cyffredin sciatica yn cynnwys cyflyrau gwaelod y cefn: torllengig disg sbinol, clefyd dirywiol disg, stenosis sbinol a spondylolisthesis.
Mewn crefydd
[golygu | golygu cod]Yn y grefydd Iddewaeth, gwaharddir bwyta'r nerf sciatic, hyd yn oed o enifeiliaid sydd fel arall yn kosher ac wedi eu lladd yn y modd cywir. Mae hyn yn seiliedig ar waharddiad a gaiff ei grybwyll yn Llyfr Genesis pennod 32, yn y Beibl, pan gaiff Jacob ei anafu'n tra'n ymgodymu gyda angel.[1] Adnabyddir y nerf sciatic yn Hebraeg fel y gid hanasheh. Mae'r broses o dynnu'r nerf sciatic (yn ogystal â rhai llestri gwaed mawr penodol a brasteri sydd wedi eu gwahardd) o'r cig sy'n ei amgylchynnu yn cael ei alw'n nikkur, neu'n "dad-wythiennu." Gan ei fod yn broses anodd a chain, yn gyffredinol ni gaiff cig o du ôl anifeil ( gan gynnwys Filet mignon) eu gwerthu fel kosher.[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Strwythr cymal y clun sy'n ei amgylchynnu.
-
Cynllun o'r plescws sacrwm a pudendal.
-
Nerfau allan yr aelod isaf, golygfa o'r tu ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vayishlach Minutiae. Sichos In English.
- ↑ Kosher Q&A: Why can't I find kosher filet mignon?. Chabad.org.