Nell Gwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Nell Gwyn (portread olew ar ganfas gan Peter Lely, tua 1675)
Nel Gwyn fel 'Ciwpid'; ysgythriad c. 1672

Roedd Nell Gwyn, sef Eleanor Gwyn (2 Chwefror 165014 Tachwedd 1687), yn actores o Loegr, a aned yn Henffordd, yn ôl pob tebyg, neu o bosibl Llundain (Covent Garden) neu Rhydychen. Roedd ei chyfenw 'Gwyn' hefyd, yn unol ag arferiad ei hoes, yn cael ei sillafu fel 'Gwynn' a 'Gwynne'.

Teulu a magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Does dim llawer o wybodaeth am ei theulu ond awgrymir gan rai fod ei rhieni'n ddigon tlawd, er bod ei bywgraffydd, Charles Beauclerk, yn amau hynny. Elen oedd enw ei mam, a gelwid hi yn "Old Madam", "Madam Gwyn", ac yn "Old Ma Gwyn". Mae enw'i mam a'i chyfenw'n awgrymu ei bod o dras Gymreig. Ganwyd Elen, mae'n debyg, ym mhlwyf St Martin in the Fields a threuliodd ei dyddiau yn Llundain. Dywed un cofnod mai ei thad oedd "Thos [Thomas] Guine a Capt [captain] of ane antient fammilie in Wales".

Defnyddiai arfau Gwyniaid Llansanwyr a oedd yn ddisgynyddion Richard Gwyn o Lansanwyr, liv. 1545 [WG2 Godwin 6 (C)] a'i wraig Ann f. Llywelyn [WG2 Ein. ap G. 16 (A)]. Ni wyddus y cysylltiaid rhwng Nel a theulu Richard, fodd bynnag.[1][2][3][4][5][6][7][8][9][10]

Oedolyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad roedd hi'n gwerthu orennau yn Drury Lane, ardal theatrau Llundain, cyn dechrau ar ei gyrfa ar y llwyfan. Roedd hi'n enwog fel comedienne.

Ei pherthynas â Siarl II[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymerodd y brenin Siarl II Nell yn ordderch a chafodd ddau blentyn gordderch ganddi, yn cynnwys yr Arglwydd Buckhurst. Dywedir mai "Peidiwch â gadael i Nellie bach lwgu" oedd geiriau olaf y brenin pan fu farw yn 1685.

Cyfranodd Nell Gwyn at sefydlu Ysbyty Brenhinol Chelsea.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. C. D., "The Will of Nell Gwynn", The Genealogists' Magazine, cyfr. VII, pp. 8-10.
  2. George Wilson, "Nell Gwynn", The Genealogical Magazine, cyfr. IV (1901), tt. 384-389 (sy'n cynnwys nifer o'i disgynyddion).
  3. Arthur Irwin Dasent, Nell Gwynne (Llundain: Macmillan, 1924), tt. 20-34.
  4. John Harold Wilson, Nell Gwyn (London: Muller, 1952), pp. 3-11.
  5. Clifford Bax, Pretty Witty Nell (London: Chapman and Hall, 1932), tt. 4-7.
  6. H. Noel Williams, Rival Sultanas (London: Hutchinson, 1915), pp. 39-42.
  7. Lewis Melville, Nell Gwyn (London: Hutchinson, 1924), pp. 8-23, esp. t. 12.
  8. Peter Cunningham, The Story of Nell Gwyn (New York: Blom, 1923), tt. 18-20, 154-158.
  9. Bryan Bevan, Nell Gwyn (New York: Roy, 1970), pp. 18-23.
  10. http://www.wargs.com/essays/welsh/gwynn.html