Neidio BASE

Oddi ar Wicipedia
Naid o ymyl dibyn; 2004
Naid BASE o'r 'Tŵr Sapphire' yn Istanbul.

Neidio gyda pharasiwt oddi ar strwythyr neu glogwyn sefydlog yw neidio BASE. Datblygodd neidio BASE fel camp yn ystod dechrau'r 1980au, a chaiff y gamp ei henw o'r talfyriad Saesneg o'r mannau cychwyn sefydlog y gellir neidio oddi arnynt, sef: adeiladau, antenau, rhychwant (pontydd) a'r ddaear (Yn y Saesneg: Buildings, Antennas, Spans, Earth).[1][2]

Caiff ei adnabod fel un o'r chwaraeon eithafol, ymylol sy'n cael ei wneud gan bobl ifanc gan fwyaf.[3] Rhwng Ebrill 1981 a 2015 roedd o leiaf 248 person wedi marw o newidio BASE.[4]

Y Cymro cyntaf i neidio BASE oedd Eric Jones yn 1986 - oddi ar fynydd yr Eiger. Mae Eric Jones hefyd wedi neidio oddi ar y rhaeadr uchaf yn y byd, sef Kerepakupai Vená (Rhaeadr Angel) yn Feneswela, ac i mewn i Ogof y Gwenoliaid (Sotano de las Golodrinas) ym Mecsico.

Hanes[golygu | golygu cod]

Bathwyd yr byrfodd (neu acronym) B.A.S.E. (neu BASE heddiw) gan y gwneuthurwr ffilmiau Carl Boenish, ei wraig Jean Boenish, Phil Smith, a Phil Mayfield.[5] Carl Boenish oedd y sbardyn pennaf ar gyfer neidio BASE ac yn 1978 ffilmiodd neidio free fall o El Capitan, yn Yosemite National Park).[6] Er i bobl neidio BASE cyn hynny, dyma'r dyddiad a ddefnyddir fel man cychwyn ymwybodol y gamp.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BASENumbers.org". BASENumbers.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-02. Cyrchwyd 2014-02-03.
  2. Sangiro. "BASE Jumping Resource and Community". Basejumper.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-15. Cyrchwyd 2014-02-03.
  3. Dizikes, Cynthia (22 Ebrill 2011). "BASE jumpers fall for thrill-seeking lifestyle". Chicago Tribune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-22. Cyrchwyd 15 March 2012.
  4. "BASE Fatality List". Blincmagazine.com. Cyrchwyd 2014-08-28.
  5. Rosenblatt, Roger (Gorffennaf 1999). "The Whole World Is Jumpable". Time 154 (3): 94. ISSN 0040781X.
  6. McCallum, Jack (26 Awst 1985). "Who Needs An Airplane?". Sports Illustrated 63 (9).