Nebo, Queensland
Gwedd
Math | tref |
---|---|
Enwyd ar ôl | Nabu |
Poblogaeth | 753, 857, 618 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Queensland, Isaac Region |
Gwlad | Awstralia |
Yn ffinio gyda | Mount Britton, Hail Creek, Strathfield, Oxford, Koumala, Blue Mountain, Epsom |
Cyfesurynnau | 21.6833°S 148.683°E |
Cod post | 4742 |
Tref fechain yn Queensland, Awstralia yw Nebo. Fe'i lleolir 100 km i'r de-orllewin o ddinas Mackay ar y Peak Downs Highway. Yn ôl cyfrifiad 2006, roedd gan Nebo boblogaeth o 282.[1]
Fort Cooper oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal ond fe'i newidiwyd i Nebo gan Lywodraethwr y Cyngor ar 2 Tachwedd 1923, ond mae'n debyg y defnyddir yr enw Nebo arno ers yr 1880au wedi iddo gael ei ailenwi gan y fforiwr a'r bugeiliwr William Landsborough. Daw'r enw Nebo o enw'r duw Babylonaidd Nabu (Hebraeg: Nebo).[2]
Yn draddodiadol, mae'r economi leol wedi dibynnu ar amaethyddiaeth, ond mae glo yn chwarae rhan bwysig hefyd, gan fod 11 pwll glo wedi eu lleoli yn yr ardal.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Swydd Nebo - hen ardal gweinyddol Nebo
- Nebo (Gwahaniaethu)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfrifiad Awstralia 2006, UCL343550, Nebo (L) (Urban Centre/Locality)
- ↑ Place name details, Nebo. Llywodraeth Queensland.