Nebo, Queensland

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Tref fechain yn Queensland, Awstralia yw Nebo. Fe'i lleolir 100 km i'r de-orllewin o ddinas Mackay ar y Peak Downs Highway. Yn ôl cyfrifiad 2006, roedd gan Nebo boblogaeth o 282.[1]

Fort Cooper oedd yr enw gwreiddiol ar yr ardal ond fe'i newidwyd i Nebo gan Lywodraethwr y Cyngor ar 2 Tachwedd 1923, ond mae'n debyg y defnyddir yr enw Nebo arno ers yr 1880au wedi iddo gael ei ailenwi gan y fforiwr a'r bugeiliwr William Landsborough. Daw'r enw Nebo o enw'r duw Babylonaidd Nabu (Hebraeg: Nebo).[2]

Yn draddodiadol, mae'r economi leol wedi dibynnu ar amaethyddiaedd, ond mae glo yn chwarae rhan pwysig hefyd, gan fod 11 pwll glo wedi eu lleoli yn yr ardal.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyfrifiad Awstralia 2006, UCL343550, Nebo (L) (Urban Centre/Locality)
  2.  Place name details, Nebo. Llywodraeth Queensland.
Flag-map of Queensland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Queensland. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.