Nastassja Kinski

Oddi ar Wicipedia
Nastassja Kinski
FfugenwNastassja Kinski Edit this on Wikidata
GanwydNastassja Aglaia Nakszynski Edit this on Wikidata
24 Ionawr 1961 Edit this on Wikidata
Gorllewin Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethmodel, actor ffilm, actor llais Edit this on Wikidata
TadKlaus Kinski Edit this on Wikidata
PartnerQuincy Jones, Ibrahim Moussa, Ilia Russo Edit this on Wikidata
PlantSonja Kinski, Kenya Kinski-Jones Edit this on Wikidata
PerthnasauLara Naszinsky Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Globes Edit this on Wikidata

Actores o'r Almaen yw Nastassja Kinski (enw llawn: Nastassja Aglaia Kinski ), a chyn-fodel sydd wedi ymddangos mewn mwy na 60 o ffilmiau yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Fe'i ganed ar 24 Ionawr 1961[1][2]

Ei ffilm cyntaf oedd Falsche Bewegung pan oedd yn 12 oed a'i llwyddiant byd-eang cyntaf oedd Stay as You Are (1978). Enillodd Wobr Golden Globe fel y prif gymeriad yn y ffilm Tess (1979) a gyfarwyddwyd gan Roman Polanski. Ymhlith y ffilmiau eraill y bu'n actio ynddynt mae'r ffilm arswyd erotig Cat People (1982) a'r dramâu Wim Wenders Paris, Texas (1984) a Faraway, So Close! (1993). Ymddangosodd hefyd yn y ffilm ddrama fywgraffyddol An American Rhapsody (2001). Mae hi'n ferch i'r actor Almaenig Klaus Kinski.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Kinski yng Gorllewin Berlin gyda'r enw Nastassja Aglaia Nakszynski.[3] Mae hi'n ferch i'r actor Almaenig Klaus Kinski a'i ail wraig, yr actores Ruth Brigitte Tocki.[4][5] Roedd ei thaid ar ochr ei thad, sef Bruno Nakszynski, o dras Pwylaidd, yn rhannol.[6] Mae gan Kinski ddau hanner brawd: Pola a Nikolai Kinski. Ysgarodd ei rieni yn 1968. Wedi iddi droi'n 10 oed, anaml y gwelodd Kinski ei thad. Roedd ei mam ifanc yn cael trafferthion ariannol ac yn ei chael yn anodd i fedru'i chefnogi; oherwydd hyn, buon nhw'n byw mewn comiwn ym Munich.[7]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Kinski weithio fel model yn ei arddegau yn yr Almaen. Bu'r actores Lisa Kreuzer o'r German New Wave yn help mawr iddi gael ei dewis i chwarae rhan (Mignon) yn ffilm y cyfarwyddwr Wim Wenders ym 1975 yn y ffilm Y Cam Gwag (Almaeneg gwreiddiol: Falsche Bewegung)[8], lle cafodd ei darlunio yn fronoeth[8][9] ac yn To The Devil a Daughter a ffilmiwyd yn 1975. Yn ddiweddarach chwaraeodd un o'r prif rannau yn ffilm Wenders Paris, Texas (1984) ac ymddangosodd yn ei ffilm Faraway, So Close (1993).

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. John Sandford (ed.) (2001), Encyclopedia of Contemporary German Culture (Routledge world reference): 340
  2. "Der Spiegel report on Kinski". See Spiegel. 15 Mawrth 1961. Cyrchwyd 18 Ebrill 2010.
  3. Welsh, James M.; Phillips, Gene D.; Hill, Rodney F. (27 Awst 2010). The Francis Ford Coppola Encyclopedia. Scarecrow Press. ISBN 9780810876514.
  4. Davidson, John E. Deterritorializing the New German Cinema, Regents of the University of Minnesota, 1999, t. 80
  5. 5.0 5.1 5.2 Welsh, James Michael; Gene D. Phillips; Rodney Hill. The Francis Ford Coppola Encyclopedia, Lanham, Maryland: Scarecrow Press Inc., 2010, t. 154
  6. "Obituaries - Klaus Kinski, Polish-Born Actor Who Starred in Werner Herzog Films - Seattle Times Newspaper".
  7. "Daddy's Girl". The Guardian. London. 3 Gorffennaf 1999. Cyrchwyd 18 Ebrill 2010.
  8. 8.0 8.1 Jenkins, David (6 Chwefror 2015). "Nastassja Kinski interview: 'I've had such low self-esteem'". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2022. Cyrchwyd 9 June 2016.Nodyn:Cbignore
  9. Dollar, Steve (1 Mawrth 2015). "Fresh Takes on Director Wim Wenders". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2016.
  10. Ellis, Bill. Raising the Devil: Satanism, New Religions, and the Media, The University Press of Kentucky, 2000, t. 159
  11. Bock, Hans-Michael; Tim Bergfelder. The Concise Cinegraph: Encyclopedia of German Cinema, Berghahn Books, 2009, t. 360
  12. "Cosi' come sei (1978)". Movies & TV Dept. The New York Times. 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-13.
  13. Mazierska, Ewa Nabokov's Cinematic Afterlife, MacFarland and Company Jefferson, North Carolina 2011 p. 48