Nambour
Jump to navigation
Jump to search
Tref yn nhalaith Queensland, Awstralia, yw Nambour. Fe'i lleolir 101 km i'r gogledd o ddinas Brisbane, prifddinas y dalaith. Mae'n gorwedd yn ne-ddwyrain Queensland ar yr Arfordir Sunshine, wrth droed Cadwyn Blackall. Mae gan Nambour boblogaeth o 13,800 (cyfrifiad 2006). Mae'n ganolfan weinyddol Cyngor Rhanbarthol Sunshine Coast.
Pobl o Nambour[golygu | golygu cod y dudalen]
- Kevin Rudd, Prif Weinidog Awstralia
- Bindi Irwin, cyflwynydd teledu a merch y diweddar Steve Irwin