Mynyddoedd Adirondack

Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd Adirondack
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTariandir Canada Edit this on Wikidata
SirEfrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Uwch y môr1,629 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.1125°N 73.9239°W Edit this on Wikidata
Map

Cadwyn o fynyddoedd yng ngogledd-ddwyrain talaith Efrog Newydd, Unol Daleithiau America, yw Mynyddoedd Adirondack (Saesneg: Adirondack Mountains neu the Adirondacks) sydd yn ymestyn o ddyffryn Afon St Lawrence a Llyn Champlain yn y gogledd i ddyffryn Afon Mohawk yn y de. Maent yn ffurfio masiff ar ffurf gylchog, gromennog, tua 160 mile (260 km) ar ei draws, a thua 1 mile (1,600 m) o uchder, dros ardal o fwy na 5,000 milltir sgwar (13,000 km2) neu 6 miliwn acr (2.4 miliwn hectar). Maent yn cynnwys cannoedd o gopaon, mwy na 40 ohonynt yn uwch na 4,000 troedfedd (1,219 m), a Mynydd Marcy (5,344 troedfedd, 1,629 m) ydy mynydd uchaf y dalaith. Siapiwyd y dirwedd yn gryf gan rewlifiant, a lleolir rhyw 200 o lynnoedd o amgylch y mynyddoedd, gan gynnwys Llyn George, Llyn Placid, a Llyn Tear of the Clouds (ffynhonnell Afon Hudson). Ardal brin ei phoblogaeth ydyw, a gwarchodir rhannau o'r Adirondacks mewn cyflwr naturiol cyntefig. Weithiau caiff yr Adirondacks eu hystyried yn rhan o rwydaith Appalachia, ond yn wir maent yn perthyn yn ddaearegol i Dariandir Canada.

Daw'r enw "Adirondack" o air Irocwoieg sydd yn golygu "un sydd yn bwyta rhisgl", sef enw difrïol ar lwyth Algonciaidd cyfagos.[1] Y fforiwr Ffrengig Samuel de Champlain—sefydlwr Québec—oedd yr Ewropeaid cyntaf i sbïo ar Fynyddoedd Adirondack, a hynny ym 1609. Dim ond ychydig iawn o bobl a fyddai'n byw yn yr ardal nes diwedd y 19g. Ym 1884, argymhellodd y botanegwr Charles Sprague Sargent y dylai'r llywodraeth daleithiol sefydlu gwarchodfa ar gyfer coedwigoedd cyntefig Efrog Newydd. Pasiwyd deddf ym 1885 i warchod coetiroedd o fewn siroedd penodol yn ardaloedd yr Adirondacks a'r Catskills, ac i sefydlu Comisiwn Coedwigaeth i oruchwylio'r Warchodfa Coedwig yn y ddwy gadwyn. Sefydlwyd Parc Adirondack ym 1892, a phasiwyd rhagor o fesurau gan y ddeddfwrfa daleithiol yn y blynyddoedd i ddod er mwyn diffinio ac ehangu ei dir. Tyfodd y parc o 2,800,000 acr (1,100,000 ha) ym 1900 i 5,820,313 acr (2,355,397 ha) erbyn 2000, ac heddiw mae ei arwynebedd yn cyfateb mwy neu lai i holl ardal yr Adirondacks. Hwn yw'r parc taleithiol neu genedlaethol mwyaf yn yr Unol Daleithiau y tu allan i Alaska. Mae'r Warchodfa Coedwig—a weinyddir ar y cyd yn yr Adirondacks a'r Catskills—yn cyfri am ryw 3,900 milltir sgwar (10,000 km2) o'r tir y tu mewn i Barc Adirondack, ac yn ôl Cyfansoddiad Efrog Newydd ei nod yw i "gadw'r tiroedd coedwig yn wyllt am byth". Perchenogir y rhan helaeth o'r Adirondacks, fodd bynnag gan dirfeddianwyr preifat, a defnyddir y tir er amaeth, hamdden, a'r diwydiant coed. Yn hanesyddol cafodd mwyn haearn, graffit, a thitaniwm eu cloddio yma, ac heddiw ceir gweithfeydd mwynau silicad megis wolastonit a garned.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Adirondack Mountains. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mawrth 2023.