Mynydd y Dorth Siwgr (Brasil)
Gwedd
| Math | inselberg, clogwyn, treftadaeth naturiol, mynydd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | sugarloaf |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Urca |
| Sir | Rio de Janeiro |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 395 metr |
| Cyfesurynnau | 22.9494°S 43.1567°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | heritage asset listed by IPHAN |
| Manylion | |
| Deunydd | gwenithfaen, gneiss |
Lleolir Mynydd y Dorth Siwgr (Portiwgaleg: Pão de Açúcar), yn Rio de Janeiro, Brasil, o aber Bae Guanabara ar benrhyn yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae'r mynydd dros 396 medr (1,299 ft) uwch lefel y mor, a dywedir fod yr enw'n tarddu o'r tebygrwydd rhwng siâp y mynydd a siâp traddodiadol torth siwgr. Fodd bynnag, cred rhai fod yr enw'n deillio o Pau-nh-acuqua (“bryn uchel”) yn yr iaith Tupi-Guarani, fel a ddefnyddir ymhlith y Tamoios brodorol.
Ymddangosiadau yn y cyfryngau
[golygu | golygu cod]Mae'r mynydd yn enwog am ei ymddangosiad cofiadwy yn y ffilm James Bond, Moonraker lle mae'r dihiryn Jaws yn ceisio lladd 007 a'i gyfaill Dr. Holly Goodhead ar dram. Defnyddir y copa hwn mewn ffilmiau er mwyn gosod y lleoliad yn syth, am fod y mynydd yn cael ei gysylltu gymaint â Rio de Janeiro.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Portiwgaleg)(Saesneg)(Sbaeneg) Gwefan Swyddogol
