Mynydd Llwydiarth
Gwedd
| Math | bryn, copa |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Ynys Môn |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 158 metr |
| Cyfesurynnau | 53.285551°N 4.188708°W |
| Cod OS | SH5408378684 |
| Manylion | |
| Amlygrwydd | 59 metr |
| Rhiant gopa | Mynydd Bodafon |
![]() | |
Bryn ar Ynys Môn yw Mynydd Llwydiarth. Mae'r copa yn 158 medr o uchder.

Saif y bryn yn ne-ddwyrain yr ynys, i'r dwyrain o bentref Pentraeth ac i'r gorllewin o bentref Llanddona, a gerllaw glannau Traeth Coch. Gorchuddir y bryn gan goedwig gonifferaidd Coed Pentraeth, sy'n un o gadarnleoedd y Wiwer Goch. Ceir llyn, Llyn Llwydiarth, ar ochr ddeheuol y mynydd, ac mae afon Braint yn tarddu yma.
