Mynachlog Poblet
Gwedd
| Math | Cistercian monastery |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Ardal warchodol | Prades Mountains |
| Sir | Poblet |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 18 ha |
| Cyfesurynnau | 41.3808°N 1.0825°E |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Sistersaidd |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, Bien de Interés Cultural, Bé cultural d'interès nacional, Monument (Spain) |
| Manylion | |
| Deunydd | carreg |
Mynachlog Sistersaidd gerllaw Vimbodí, yn Nhalaith Tarragona, Catalwnia, yw Mynachlog Poblet (Catalaneg: Reial Monestir de Santa Maria de Poblet, Sbaeneg: Real Monasterio de Santa María de Poblet.
Sefydlwyd y fynachlog yn 1149 gan Ramón Berenguer IV, a'i rhoddodd i fynachod o Urdd Sant Bernard o Abaty Fontfroide. Claddwyd brenhinoedd Aragon yma o Alfonso II ymlaen. Daeth yr abaty yn gyfoethog, yn enwedig yn 14g. Yn ddiweddarach dirywiodd, a gadawodd y mynachod yr abaty yn 1835. Dechreuwyd gwneud gwaith adfer yn 1930, ac ail-gysegrwyd yr eglwys yn 1935. Yn 1940 dychwelodd grŵp o fynachod Sistersaidd i'r abaty.
Yn 1991 cyhoeddwyd yr abaty yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
