Muchudd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Sampl o fuchudd

Deunydd daearegol ac hefyd lain isradd yw'r muchudd. Nid ystyrir yn wir fwyn, ond yn hytrach yn fineraloid am fod iddo darddiad organig, gan ei fod yn deillio o bren a fraenarai dan wasgedd eithafol. Mae 'muchudd' yn ogystal yn anosddair yn golygu "du fel y muchudd", yn yr un modd y dywedid "jet-black" yn Saesneg.[1]

Tarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r muchudd yn ffurfio o ganlyniad i fraeniad pren o filiynau o flynyddoedd yn ôl dan wasgedd uchel, yn aml pren o eiddo'r Araucariaceae. Ceir dwy ffurf o'r muchudd, caled a meddal. Canlyniad cywasgaid carbon a dŵr hallt yw muchudd caled; canlyniad cywasgaid carbon a dŵr croyw yw muchudd meddal.

Rhinweddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerfir muchudd yn hawdd iawn, ond mae'n anodd ei gerfio â manylder heb ei dorri a chan hynny cymer amser ac addysg briodol yn y grefft o'i gerfio er mwyn cerfio muchudd yn gelfydd.

Mae'r muchudd â chaledwch sy'n amrywio rhwng 2 a 4 yn ôl Graddfa Mohs a dwysedd cymharol rhwng 1.30 ac 1.14. Mae ganddo fynegrif plygiant o 1.66 yn union. Pan gyffyrddir muchudd â nodwydd poethgoch fe ryddha arogl yn debyg i hwnnw o lo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?muchudd. Geiriadur Prifysgol Cymru: muchudd
  2. Richard T. Liddicoat, Jr. Handbook of Gem Identification 1989 GIA press, 12 ed. tt. 192