Neidio i'r cynnwys

Mrs Brown's Boys

Oddi ar Wicipedia
Mrs Brown's Boys
Enghraifft o:cyfres deledu Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
Genrecomedi sefyllfa, cyfres deledu am LGBTI+ ayb Edit this on Wikidata
DosbarthyddNBCUniversal Syndication Studios Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bbc.co.uk/programmes/b00x98tn Edit this on Wikidata

Rhaglen gomedi boblogaidd o Iwerddon ydy Mrs. Brown's Boys, wedi ei chreu a'i sgriptio gan y Gwyddel Brendan O'Carroll, sydd hefyd yn serennu ynddi fel actor. Fe'i cynhyrchwyd gan BBC Scotland mewn partneriaeth gyda BocPix ac RTÉ. Dyn, ac ator drag, ydy O'Carroll ac ef sy'n chwarae rhan Mrs Brown, seren y comedi. Mae'r rhan fwyaf o'r actorion eraill naill ai'n ffrindiau neu'n aelodau o'i deulu.

Ceir arddull anffurfiol, ffwrdd-a-hi, ble dangosir nifer o 'gangymeriadau' neu linellau byr-fyfyr nad ydynt yn y sgript, sy'n gwneud y rhaglen yn ffres ac yn wahanol i'r rhelyw. Mae llawer o feirniaid wedi bod yn llawdrwm iawn o'r rhaglen e.e. barn The Metro oedd ei bod "not even remotely funny", gan fynegi y dylai'r BBC "hang its head in shame" am ei dangos.[1] Er hyn, mae'r niferoedd sy'n ei gwylio yn profi ei bod yn un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd sawl gwlad, gyda gwledydd Prydain, Iwerddon, Awstralia a Chanada ymhlith y gwledydd sydd â'r mwyaf o wylwyr. Mae teledu Unol Daleithiau America'n gwrthod ei dangos gan fod ynddi lawer o regfeydd. Enillodd Mrs Brown's Boys lawer o wobrau dros y blynyddoedd diwethaf.

Trosolwg

[golygu | golygu cod]
Cyfres Pennod Darlledwyd yn gyntaf Nifer cyfartalog o wylwyr (DU)
(miliwn)
Darllediad cyntaf Darllediad olaf
Pennod 1 (2011) 6 21 Chwefror 2011 28 Mawrth 2011 3.00
Rhifyn Arbennig (2011) 1 26 Rhagfyr 2011 8.24
Pennod 2 (2012) 6 2 Ionawr 2012 6 Chwefror 2012 6.98
Rhifyn Arbennig (2012) 2 24 Rhagfyr 2012 26 Rhagfyr 2012 11.20
Pennod 3 (2013) 6 1 Ionawr 2013 4 Chwefror 2013 9.41
Rhifyn Arbennig (2013) 2 25 Rhagfyr 2013 30 Rhagfyr 2013 11.40
Rhifyn Arbennig (2014–15) 2 25 Rhagfyr 2014 1 Ionawr 2015 9.76
Rhifyn Arbennig (2015–16) 2 25 Rhagfyr 2015 1 Ionawr 2016[2] TBA
Rhifyn Arbennig Byw (2016) 1 Haf 2016 TBA

Rhyddhawyd Mrs. Brown's Boys yn wreiddiol ar RTÉ 2fm, sef gorsaf radio Gwyddelig, yn 1992, ac yna fel cyfres o lyfrau, gan Brendan O'Carroll yng nghanol y 1990au.[3][4] Teitlau'r llyfrau unigol oedd: The Mammy, The Chisellers, The Granny, a The Young Wan, ac fe'u cyhoeddwyd yn Iwerddon cyn iddynt gael eu cyhoeddi yng ngwledydd Prydain.[5]

Datblygodd y gyfres sitcom yn araf dros nifer o flynyddoedd; roedd ei gwreiddiau yn nechrau 1999, gyda'r prif gymeriad Agnes Browne yn ymddangos yn wreiddiol fel drama lwyfan ac yna drama radio, llyfrau a DVDs.

Ar gyfer y sitcom, talfyrwyd yr enw 'Browne' i 'Brown'. Mae'r dramau llwyfan wedi parhau hyd at y presennol, gydag ymweliadau ag Awstralia yn 2014. Cyhoeddwyd ffilm Mrs. Brown's Boys D'Movie, ar 27 Mehefin 2015.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Mrs Brown's Boys was just jaw-droppingly past its sell-by date". The Metro. 21 Chwefror 2011. Cyrchwyd 24 Mehefin 2014.
  2. bbc.co.uk; adalwyd 3 Ionawr 2016
  3. Ring, Evelyn (26 November 2011). "'Mad' success for Mrs Brown". Irish Examiner. Cyrchwyd 30 September 2012.
  4. "The Cafe". RTÉ News. 20 December 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-02. Cyrchwyd 2016-01-03.
  5. "Brendan O'Carroll: O'Brien Press Author". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-13. Cyrchwyd 2016-01-03.
  6. "Mrs Brown's Boys D'Movie". BBC Films. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-05. Cyrchwyd 25 Mawrth 2014.