Morvan Lez-Breizh
Gwedd
Roedd Morvan neu Morvan Lez Breizh (bu farw 818) yn frenin Llydaw yn y cyfnod yn dilyn marwolaeth Siarlymaen.
Roedd Morvan wedi derbyn awdurdod Siarlymaen, ac wedi gwneud gwrogaeth iddo, ond ar farwolaeth Siarlymaen yn 814, cyhoeddodd ei hun yn frenon Llydaw. Wedi i drafodaethau fethu, dechreuodd olynydd Siarlymaen, Louis Dduwiol, ymgyrch yn erbyn Llydaw yn 818. Lladdwyd Morvan mewn brwydr yn erbyn byddin Louis.