Monte Pindo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mount Pindo
Celtic Olympus

Galisia
Castelo de San Xurxo, O Pindo, Galicia.jpg
Relief Map of Spain.png
Cyfieithiad
Iaith Galisieg
Testun y llun
Uchder (m) 627
Uchder (tr) 2,057
Amlygrwydd (m) {{{amlygrwydd_m}}}
Lleoliad  Galisia,  Spain.
Map topograffig {{{map_topo}}}
Cyfesurynnau OS {{{grid_OS}}}
Gwlad Sbaen
Dosbarthiad

Lleolir Mount Pindo ('Mynydd Pindo') yng Ngalisia, sy'n wlad gyda pheth ymreolaeth o fewn Sbaen. Mae'n fynydd pwysig yn hanes y wlad, gydag uchder yn 627m (2,057 tr).[1] Ceir nifer o chwedlau am y mynydd, a ystyrir gan rai haneswyr fel yr Olympus Celtaidd. Ychydig iawn o fynd a dod fu yn y gymdeithas leol, oherwydd ei daeareg, ac mae llawer o'r enwau lleol yn tarddu o ieithoedd Celtaidd.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y mynydd â'i droed yn arfordir yr Iwerydd, ger Carnota ac mae wedi ei ddynodi'n 'safle o ddiddordeb cymdeithasol arbennig ers 2014, ac wedi'i gynnwys yn y Natura 2000 dan y teitl 'Monte Pindo a Carnuta'. Mae'r mynydd o fewn Siroedd Carnota, Mazaricos, Cee a Dumbría - rhwng Corcubion ac aberoedd Ría de Muros e Noia, ac mae ei arwynebedd yn 4,629m.

Ceir nifer o anifeiliaid prin ar y mynydd gan gynnwys y dyfrgi, Gavia arctica, ystlumod a'r hebog tramor.[2] Ceir ymgyrch gan amgylcheddwyr lleol i adfer statws 'parc naturiol, brodorol' i'r mynydd.[3]

Cafwyd tân enbyd yn 2013 a achosodd difrod eithriadol i Monte Pindo, gan losgi dros 1,600 hectar o goed.[4]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir tystiolaeth (ar ffurf serameg) fod pobl wedi byw yn yr ardal dros 6,000 o flynyddoedd yn ôl.[3] Yn y 10g cododd Esgob Iria Flavia gastell ar lethrau'r mynydd er mwyn amddiffyn yr ardal rhag ymosodiadau y Normaniaid a'r Llychlynwyr. Bu uchelwyr Galisiaidd yn trigo yno hyd at 1467 pan gafodd ei ddryllio mewn rhyfel.[5]

Caer arall ar y mynydd yw Peñafiel a bu yma hefyd feudwyaid a ffynhonnau sanctaidd yma ac acw.[6]

Enw[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyr y gair 'binn' mewn Gwyddeleg yw 'copa mynydd', a thros gyfnod o amser aeth y gair i olygu'r mynydd ei hun. Felly hefyd y Gaeleg: 'beinn'. Posibilrwydd arall yw lliw'r mynydd - yn y ddwy iaith, ystyr y gair 'dubh' yw 'du', ac mae'r Gymraeg yma'n debyg iawn.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "A cota máis elevada é o pico da Moa (627 metros)", Gran Enciclopedia Galega Silverio Cañada, DVD.
  2. Carnota - Monte Pindo Natura 2000
  3. 3.0 3.1 Monte Pindo, Parque Natural! Adega.
  4. Monte Pindo wildfire threatens another unique Galicia beauty spot El Pais 2013
  5. Castelo de San Xurxo Patrimonio Galego
  6. Assessment and Management of the Geomorphological Heritage of Monte Pindo (NW Spain): A Landscape as a Symbol of Identity | Manuela Costa-Casais, María Isabel Caetano Alves and Ramón Blanco-Chao, Sustainability / MDPI (tud 20 / 7068)