Misneach (grŵp)

Oddi ar Wicipedia
Misneach
Enghraifft o'r canlynolcarfan bwyso, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
SylfaenyddMáirtín Ó Cadhain Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.misneachabu.ie/ Edit this on Wikidata

Grŵp pwyso dros y Wyddeleg yn Iwerddon yw Misneach. Fe’i sefydlwyd gan Máirtín Ó Cadhain ac roedd yn canolbwyntio’n gadarn ar adfywiad yr iaith Wyddeleg. Yr aelodau cyntaf oedd; Máirtín Ó Cadhain, Deasún Breatnach, Cian Ó hEighartaigh, Séamus Ó Tuathail, Prancesias Nic White, Séamus Ruiséal, Eoin Ó Murchú, Micheál Mac Aonghusa, a Seán Ó Beacháin. Roedd darlith Tynged yr Iaith, a gyfieithwyd i'r Wyddeleg, yn rhan o'r hyn a'u sbardunodd.[1]

Ymprydio[golygu | golygu cod]

Trefnodd y grŵp streic newyn am wythnos yn ystod hanner canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg, oherwydd, gan honi bod y wladwriaeth wedi gwneud consesiynau mewn materion Gwyddeleg a Gaeltacht. Cymerodd Deasún Breatnach, Cian Ó hÉigartaigh, Séamus Ó Tuathail, Proinsias Nic Uait, Séamus Ruiséal, Seán Ó Beacháin, Micheál Mac Aonghusa, Eoin Ó Murchú, Seán Ó Laighin, a Fiachra Ó Dubhthaigh ran ynddo. Cymerodd chwech o bobl o Belfast, a aeth ar streic yn Cumann Cloinard, ran yn yr un ymgyrch, sef Séamus Mac Seán, Tomás Ó Monacháin, Brian Ó Maileoin, Caoimhín Ó Loingsigh, Tomas Ó Duibhir a Donnchadh Ua Bruadair.

Gluaiseacht na Gaeilge, Gluaiseacht ar strae[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd y grŵp bamffled am wleidyddiaeth yr iaith Wyddeleg, Gluaseacht na Gaeilge, Gluaseacht ar strae a oedd yn seiliedig ar araith a draddodwyd gan Máirtín Ó Cadhain ym mis Awst 1969. Yn yr araith dywedodd wrth siaradwyr Gwyddeleg am gymryd rhan yn 'Ailfeddiannu Iwerddon'.

Ail-ffurfio[golygu | golygu cod]

Yn 2012 cyhoeddwyd bod grŵp newydd i gael ei ffurfio o dan yr un teitl a bod y grŵp hwn wedi derbyn caniatâd gan aelodau'r Misneach wreiddiol i arddel yr enw. Mae'r grŵp yn cymryd safbwynt 'radical' o ran yr iaith Wyddeleg.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]