Mir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr olygfa o'r Wennol Ofod pan gyfarfu'r ddau (rendezvous STS-89). Uned gargo ar y chwith ac uned y gofodwyr ar y dde. 1998. Rhif y ddelwedd: STS089-340-035

Cafodd yr orsaf ofod Mir (Rwsieg: Мир, IPA: [ˈmʲir]; sef "heddwch") ei lansio gan yr Undeb Sofietaidd yn 1986, a pharhaodd y gwaith adeiladu tan y 1990au cynnar. Tan lansiad yr Orsaf Ofod Rhyngwladol (International Space Station), Mir oedd yr orsaf ofod fwyaf yn hanes y gofod. Ymwelodd nifer o ofodwyr Americanaidd â'r orsaf yng nghanol y 1990au; gwelwyd y prosiect hwn fel cam pwysig yng nghyd-weithrediad Rwsia a'r UDA yn y gofod. Syrthiodd o'i orbit yn 2001.