Mindoro
Jump to navigation
Jump to search
Un o ynysoedd y Philipinau yw Mindoro. Fe'i lleolir i'r de-orllewin o Luzon ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Palawan. Poblogaeth: 1,062,000 (2000).
Yn weinyddol, rhennir Mindoro yn ddwy dalaith, sef Occidental Mindoro ac Oriental Mindoro (Gorllewin a Dwyrain Mindoro). Calapan yw'r ddinas fwyaf (105,910).
Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant. Mae mwyngloddio copr a chwarelu marmor yn bwysig hefyd.
Siaredir sawl iaith ar yr ynys, yn cynnwys Tagalog, iaith y mwyafrif.