Miles Jupp
Gwedd
Miles Jupp | |
---|---|
Ganwyd | Miles Hugh Barrett Jupp 8 Medi 1979 Llundain |
Man preswyl | Sir Fynwy |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | digrifwr, actor, cyflwynydd radio, actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu |
Gwefan | http://www.milesjupp.co.uk/ |
Mae Miles Hugh Barrett Jupp (ganed 8 Medi 1979) yn gomedïwr ac actor o Loegr. Ar ôl dechrau ei yrfa fel comedïwr ar ei sefyll, daeth i amlygrwydd ar deledu fel y dyfeisiwr Archie, yn y gyfres deledu blant Balamory. Mae hefyd yn adnabyddus ar gyfer ei rolau fel John Duggan yn The Thick of It a Nigel yn y comedi sefyllfa Rev.
Ym Medi 2015, cymerodd Jupp le Sandi Toksvig fel cyflwynwydd The News Quiz ar BBC Radio 4.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae Jupp yn briod â Rachel a gyfarfu pan oedd ym Mhrifysgol Caeredin. Mae gan y cwpl bump o blant, ac mae'r trydydd a'r pumed yn efeilliaid.[1] Wedi byw yng ngogledd Llundain, mae'r teulu wedi ymgartrefu yn Nhrefynwy.[2]
Teledu
[golygu | golygu cod]- Balamory
- She Stoops to Conquer (2008)
- The Thick of It (2009-2012)
- Rev. (2010-2014)
- In and Out of the Kitchen (2015)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Maria Virto (28 Mai 2014). "Miles Jupp to rock up in Guildford and Aldershot". getsurrey.
- ↑ (Saesneg) Patrick Foster (18 Medi 2015). Miles Jupp begins his reign of The News Quiz - and he's hoping to tweak the guest list. radiotimes.co.uk. Adalwyd ar 25 Mehefin 2016.