Milddail

Oddi ar Wicipedia
Milddail
Achillea millefolium
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Asterales
Teulu: Asteraceae
Genws: Achillea
Rhywogaeth: A. millefolium
Enw deuenwol
Achillea millefolium
L., 1753

Planhigyn blodeuol gwyllt ydy Milddail neu Llysieuyn y gwaedlif (Lladin: Achillea millefolium; Saesneg: Yarrow) sy'n cael ei ddefnyddio ers cenedlaethau i wneud ffisig (neu foddion). Ceir sawl coesyn, fel arfer, gyda phob un rhwng 0.2 - 1.0 metr o daldra. Mae'r dail rhwng 5 – 20 cm o ran hyd ac i'w canfod mynychaf yn hanner isaf y planhigyn, yn tyfu'n drefnus ar ffurf sbiral gyda pheth blewiach sidanaidd arnynt a phob un yn edrych bron fel pluen.[1].

Ceir 3 - 8 clwstwr o flodau ar bob coesyn, ac mae'r rhai hyn yn amrywio mewn lliw o wyn i binc pan flodeuant rhwng mis Mai a mis Mehefin, ac yn ôl rhai, mae pob blodeuyn bychan yn edrych fel fersiwn tylwyth teg o lygad y dydd. Fe'i geir ar fynyddoedd mor uchel â 3500 metr uwchben lefel y môr, ac nid ydy gwynt yn eu poeni. Mae'n well ganddynt dyfu ar elltydd, bryniau mynyddig, neu mewn coedwigoedd.

Blodyn milddail

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Dywedir bod y planhigyn hwn yn chwysgyffur (diaphoretic), yn egr (astringent)[1], a gan y gallu i lanhau'r gwaed yn ôl credoau gwerin.[2][3], tonig meddygol[3], symbylydd (stimulant). Mae'n cynnwys asid isofalerig, asid salisylig, asparagin, sterolau, fflafonoidau, a thannin. Fe'i defnyddiwyd ers canrifoedd, hefyd, oherwydd ei allu i wella cleisiau ar y croen. Sylwer ar y gair Lladin ar y genus hwn, sef achillea, sy'n tarddu o'r arwr Groegaidd Achilles, a oedd wastad yn cario moddion a wnaed o filddail. Gelwir ef yn Saesneg fel Soldier's Woundwort.

Coginio[golygu | golygu cod]

Gellir defnyddio'r blodau wedi'u sychu fel perlysieuyn i roi blas i fwyd. Arferid ei ddefnyddio hefyd i roi blas i gwrw yn yr Oesoedd Canol, cyn i'r hopys gyrraedd o'r Almaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gwefan 'Herb Wisdom'
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. 3.0 3.1 Alma R. Hutchens (1973). Indian Herbology of North America. Shambhala Publications. ISBN 0-87773-639-1

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato