Mike Davies (chwaraewr tenis)

Oddi ar Wicipedia
Mike Davies
Ganwyd9 Ionawr 1936 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw2 Tachwedd 2015 Edit this on Wikidata
o afiechyd yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Sarasota, Florida Edit this on Wikidata
Man preswylSarasota, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr tenis, entrepreneur Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Neuadd Anfarwolion' Tennis Rhyngwladol Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Chwaraewr tenis proffesiynol, entrepreneur a gweinyddwr oedd Michael Grenfell "Mike" Davies (9 Ionawr 19362 Tachwedd 2015). Cafodd yrfa ym musnes tenis wnaeth ymestyn dros 60 mlynedd, yn gyntaf fel chwaraewr amatur a phroffesiynol, gan gynnwys cyfnod fel y chwaraewr safle uchaf yng ngwledydd Prydain ac aelod o dîm Cwpan Davis gwledydd Prydain, ac yna fel entrepreneur ac un o arloeswyr y gêm broffesiynol.

Gyrfa fel chwaraewr[golygu | golygu cod]

Ganwyd Davies yn Abertawe. Dechreuodd chwarae tenis yn 11 oed, a daeth i sylw Fred Perry a Dan Maskell.[1] Chwaraeodd ar dîm Cwpan Davis gwledydd Prydain gyda Bobby Wilson, Billy Knight a Roger Becker.

Aeth Davies i Awstralia yn 1952 am y cyntaf o dri ymweliad dros y gaeaf i weithio gyda Harry Hopman, Hyfforddwr Cwpan Davis Awstralia, a chwaraewyr o Awstralia fel Lew Hoad, Ken Rosewall, Roy Emerson, Fred Stolle.[1] Yno y datblygodd Davies ei gêm.[2]

Rhwng 1958 a 1960 roedd Davies yn rhif 1 yng nqwledydd Prydain. Chwaraeodd i'r tîm Davis Cup rhwng 1956 a 1960 a chafodd record gêmau o 15/8. Yn 1960 cyrhaeddodd rownd derfynol Dyblau y Dynion yn Wimbledon gyda Bobby Wilson.[2][3]

Ar ôl hynny, yn 1960, cafodd wahoddiad i droi'n chwaraewr proffesiynol gyda Jack Kramer am warant dwy flynedd o £ 4,500 y flwyddyn.[2] Ymunodd â grŵp dethol o chwaraewyr a oedd yn cael eu hystyried yn y gorau yn y byd fel Pancho Gonzales, Tony Trabert, Lew Hoad, Ken Rosewall a Pancho Segura.[1]

Gan mai gêm amatur oedd tenis rhyngwladol ar y pryd, roedd statws proffesiynol Davies yn golygu ei fod yn benben â'r corff a oedd yn rheoli tenis, y International Tennis Federation (ITF), a chafodd ei aelodaeth o'r All-England Club yn Wimbledon ei ddiddymu, a daeth yn yn anghymwys i chwarae yn y Davis Cup neu unrhyw un o'r prif gystadlaethau Grand Slam.[4] Yn ogystal â chwarae, fe'i hetholwyd i fwrdd cyntaf Cymdeithas y Chwaraewyr a ffurfiwyd gan y grŵp dethol hwn o tua 12-15 o chwaraewyr, a chafodd ei hun yn arwain y gad i hyrwyddo tenis proffesiynol a'r frwydr dros denis agored. Yn fuan iawn, cafodd Davies ei hun yn llefarydd y daith, yn hyrwyddo digwyddiadau a chymryd y camau cyntaf tuag at yrfa lewyrchus yn hyrwyddo tenis fel busnes.[2] Y Gymdeithas Chwaraewyr gyntaf hon (IPTPA) oedd rhagflaenydd Association of Tennis Professionals (ATP), a bu Davies yn gyfarwyddwr gweithredol ym 1982.

Cyhoeddodd Davies ddau lyfr yn 1961: un llyfr hyfforddi, a'r llall yn hunangofiant o'r enw Tennis Rebel (Stanley Paul, Llundain).

Ymddeolodd Davies ym 1967, flwyddyn cyn i Wimbledon ganiatáu i chwaraewyr proffesiynol gystadlu. Fodd bynnag, daeth allan o ymddeoliad i chwarae yn yr 'Open' cyntaf yn Wimbledon. Roedd wedi methu 28 o ddigwyddiadau Grand Slam yn ystod y gwaharddiad.

Gyrfa fel entrepreneur[golygu | golygu cod]

WTC[golygu | golygu cod]

Sefydlwyr 'World Championship Tennis' (WCT) a phenodwyd Davies yn gyfarwyddwr gweithredol.[5] Roedd wyth o chwaraewyr dan gytundeb, ac fe'u hyrwyddwyd fel yr 'Wyth Golygus' ('The Handsome Eight'): Dennis Ralston, Butch Buchholz, Pierre Barthes, John Newcombe, Tony Roche, Nikki Pilic, Roger Taylor a Cliff Drysdale. Byddai'r WCT yn addo swm penodol o arian i bob un am nifer benodol o wythnosau o chwarae bob blwyddyn Wedi cwpl o flynyddoedd, prynodd y WCT gytundebau'r chwaraewyr proffesiynol eraill ar y pryd, gan gynnwys Rod Laver, Ken Rosewall, Roy Emerson, Andrés Gimeno ac arwyddwyd y chwaraewyr amatur Arthur Ashe a Stan Smith.

Yn 1970 lluniodd Davies y cynlluniau ar gyfer y daith filiwn-doler gyntaf : byddai ugain o dwrnameintiau yn cael eu chwarae mewn ugain dinas ledled y byd gan 32 o chwaraewyr dan gytundeb, pob un yn derbyn $50,000. Byddai'r wyth oedd â'r record orau yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol WCT yn Dallas. Rhedodd Davies WCT Dallas fel cyfarwyddwr gweithredol am dair blynedd ar ddeg.[2]

Yn ystod ei amser gyda WCT, bu Davies yn gyfrifol am nifer o ddatblygiadau arloesol a'r newidiadau i reolau'r gêm:[4]

  • cylched broffesiynol gyntaf i ymgorffori'r datglo
  • y cyntaf i fynnu dillad lliw i'r chwaraewyr
  • cyflwyno pêl tenis lliw (oren yn gyntaf, wedyn melyn) ym 1972
  • Creodd Davies y 30 eiliad rhwng pwyntiau a'r 90 eiliad rhwng gemau
  • y cyntaf i osod cadeiriau ar y cwrt ar gyfer y chwaraewyr wrth newid ochrau
  • y cyntaf i gael cynrychiolydd chwaraewr a hyfforddwr yn teithio gyda'r chwaraewyr i bob twrnamaint
  • gair olaf y dyfarnwr ac arbrofi gyda galw'r llinell yn electronig ym 1972
  • y cyntaf i gwblhau cytundeb teledu gyda rhwydwaith mawr (NBC) ar gyfer ei World Championship Tennis, gan arwain at rowndiau terfynol Dallas
  • y cyntaf i syndiceiddio twrnameintiau yn yr Unol Daleithiau
  • y cyntaf i arwyddo contract (gydag ESPN) cyn i'r rhwydwaith ddod ar yr awyr erioed

ATP[golygu | golygu cod]

Yn 1981 gadawodd Davies WCT ar ôl 13 mlynedd ac ymunodd â'i gyfaill gydol oes Butch Buchholz fel Cyfarwyddwr Marchnata yr Association of Tennis Professionals (ATP).[2][4] Flwyddyn yn ddiweddarach, pan adawodd Buchholz yr ATP, daeth Davies yn gyfarwyddwr gweithredol. Roedd yr ATP bron â throi'n fethdaledig ar y pryd, a phan adawodd Davies ar ôl tair blynedd roedd ganddynt dros $ 1 miliwn mewn asedau.[5] Helpodd i sefydlogi cynllun pensiwn y chwaraewyr a chreu mwy o swyddi ar gyfer chwaraewyr gyda mwy o dwrnameintiau a mwy o arian.[5]

MITPC[golygu | golygu cod]

Bu Davies hefyd yn gwasanaethu ar y Men's Pro Council a bu'n gadeirydd y pwyllgor hwn a weinyddodd Gylchdaith Broffesiynol y Dynion, cyn yr ATP.

ITF[golygu | golygu cod]

Ym 1987 ymunodd Davies â'r International Tennis Federation (ITF) ac yn ddiweddarach symudodd yn ôl i Lundain fel rheolwr cyffredinol a Chyfarwyddwr Marchnata.[2][3] Fe'i gwnaed yn aelod llawn o Glwb Tenis Lawnt a Croquet All England yn Wimbledon ym 1990 - 30 mlynedd ar ôl iddynt ddiddymu ei aelodaeth. Yn ystod y blynyddoedd hyn bu bron i Davies dreblu refeniw Nawdd a Theledu Rhyngwladol yr ITF, a chreodd y Pwyllgor Grand Slam sydd bellach yn goruchwylio'r pedwar digwyddiad Grand Slam.

Cwpan Grand Slam[golygu | golygu cod]

Creodd Davies y Cwpan Grand Slam a chwaraewyd gyntaf yn Munich yr Almaen ym 1990.[2] Roedd y digwyddiad hwn ar gyfer yr 16 chwaraewr a oedd wedi cael y record orau yn y pedwar digwyddiad Grand Slam. Roedd yr arian gwobr yn $ 6 miliwn, gyda $2 filiwn yn mynd i enillydd y digwyddiad. Hwn yw'r wobr ariannol uchaf fesul chwaraewr o hyd. Ym 1994, fe wnaeth Davies negodi'r cytundeb teledu mwyaf ym myd tenis rhwng German TV, Ffederasiwn Tenis yr Almaen a'r ITF am gytundeb pum mlynedd gwerth $200 miliwn.

Ymddeoliad a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ymddeolodd Davies yn 1995 a symud yn ôl i'r Unol Daleithiau.

Cafodd ei dderbyn i Neuadd Enwogion Tenis Rhyngwladol yn 2012 am ei ran yn trawsffurfio'r gamp fel ei bod o ddiddordeb byd-eang.[6] Bu farw Davies o mesothelioma yn Sarasota, Florida ar 2 Tachwedd 2015. Roedd yn 79 oed.[7][8][9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Jackson, Peter (2012). "Ch.6". Triumph and Tragedy : Welsh Sporting Legends. Edinburgh: Mainstream. ISBN 978-1780575568.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 Richard Osborn (3 November 2015). "Mike Davies: 1936-2015". Association of Tennis Professionals (ATP).
  3. 3.0 3.1 "Tennis: Welsh Wimbledon finalist Mike Davies reflects on colourful career". WalesOnline. 4 July 2011.
  4. 4.0 4.1 4.2 Kevin Leonard (5 July 2014). "Mike Davies: The man who shaped modern tennis". BBC.
  5. 5.0 5.1 5.2 Richard Evans (4 November 2015). "Mike Davies, Tennis Visionary". Association of Tennis Professionals (ATP).
  6. "Tennis Industry Exec Mike Davies to be Inducted in 2012". International Tennis Hall of Fame. Cyrchwyd 5 October 2012.
  7. "Former British tennis player Mike Davies dies at 79". Yahoo. 3 November 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2019-07-12.
  8. "Mike Davies, the Welshman who made modern tennis, dies at the age of 79". WalesOnline. 4 November 2015.
  9. http://www.latimes.com/local/obituaries/la-me-mike-davies-20151108-story.html