Cwmni teledu i'r byd Arabaidd a'r Dwyrain Canol yw'r Middle East Broadcasting Center neu MBC, sy'n perthyn i Sawdi Arabia. Ceir sawl sianel teledu sy'n perthyn i grŵp MBC, yn cynnwys sianeli newyddion 24 awr y dydd a sianeli adloniant. Sefydlwyd pencadlys yr MBC yn Llundain ond fe'i symudwyd i Dubai yn 2002.
Mae'n darlledu yn Arabeg yn bennaf, gan ddefnyddio isdeitlau neu dybio ar gyfer ffilmiau a rhaglenni adloniant mewn ieithoedd eraill. Cyflwynwyd gwasanaeth Perseg yn ddiweddar. Mae'n perchen gorsaf radio Arabeg hefyd.