Metrolink, St Louis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
StLouis03LB.jpg
Trên yn gadael Maes Awyr Lambert
Gorsaf reilffordd Maes Awyr Lambert
Llinellau Coch a Glas MetroLink

Mae Metrolink St Louis yn rhan o rwydwaith cludiant Metro St Louis yn ninas St Louis, Missouri, sydd yn cynnwys bysiau hefyd. Mae 2 linell erbyn hyn (y Llinell Goch a Llinell Glas) a 38 o orsafoedd.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd gwaith adeiladu ym 1990, yn defnyddio hen reilffyrdd, gan gynnwys un ar Bont Eads ar draws Afon Mississippi a thwneli o dan ganol y ddinas[1]. Gwahoddwyd 6 artist i gydweithio gyda'r penseiri a peirianyddion yn ystod y gwaith cynllunio.[2] Agorwyd y lein gyntaf, 14 milltir o hyd, gyda 16 o orsafoedd, ar 31 Gorffennaf 1993. Agorwyd ail lein, i Faes Awyr Lambert ym 1994, yn ogystal ag estyniad i orsaf reilffordd East Riverfront. Agorwyd Gorsaf reilffordd Terminal #2 y maes awyr ym 1998. Dechreuodd gwaith adeiladu lein newydd i St Clair ym 1998. Agorwyd y lein, gyda 8 o orsafoedd newydd, yn 2001. Yn 2006, agorwyd Estyniad Traws-Gwlad Metrolink, 8 milltir o hyd ac yn cynnwys 9 gorsaf ychwanegol.[3] Estynwyd y rhwydwaith o orsaf reilffordd Coleg De-orllewinol Illinois i orsaf reilffordd Shiloh-Scott ym Mai 2003, yn costio $75,000.000 gyda grant o $60,000,000 o Raglen Illinois FIRST (Fund for Infrastructure, Roads, Schools, and Transit) a $15,000,000 oddi ar Ardal Trafnidiaeth St Clair. Agorwyd Estyniad Traws Gwlad 9 milltir o hyd rhwng Gorsaf reilffordd Forest Park-DeBaliviere a Gorsaf reilffordd Shrewsbury-Lansdowne ar 26ain Awst 2006, yn cysylltu Prifysgol Washington]], Canolfan siopa Galleria St Louis, Maplewood a Shrewsbury, Missouri i’r rhwydwaith. Cyllidwyd y prosiect cyfan gan gyfrandaliadau werth $340 miliwn. Disodlwyd adeiladwr cyffredinol i brosiect yn ystod yr haf 2204. Aeth Metro i’r llys yn erbyn y cwmniau adeiladu, yn gofyn am $81 miliwn am dwyll a chamreolaeth. Gofynnodd y cwmniau am $17 miliwn bod Metro ddim wedi talu amdano fo. Ar 1 Rhagfyr 2007 derbynwyd y cwmniau On December 1, 2007, derbynwyd y cwmniau $2.56 miliwn. Ar 27 Hydref 2008, ail-enwyd y ddwy linellau; Daeth y gangen i’r maes awyr y Llinell Goch, a’r gangen Shrewsbury y Llinell Las. Estynwyd y Llinell Las o Emerson Park i Fairview Heights. Mae gan y drenau i gyd arwydd coch neu las arnynt.[4] Ar 9 Medi 014, cyhoeddwyd gan Adran Cludiant yr Unol Daleithiau bod cyllid o $10.3 miliwn ar gael ar gyfer gorsaf newydd yn ardal ymchwil Cortex y ddinas. Ychwanegwyd $5 milwn arall gan bartneriaeth sy’n cynnwys Prifysgol Washington, BJC Healthcare, Great Rivers Greenway a Chymuned Cortex. Agorwyd Gorsaf dramffordd Cortex ar 31 Gorffennaf 2018.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag-map of Missouri.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Missouri. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.