Methodistiaeth gyntefig
Gwedd
| Enghraifft o: | former Christian denomination |
|---|---|
| Daeth i ben | 1932 |
| Rhan o | Methodistiaeth |
| Dechrau/Sefydlu | c. 1810 |
| Olynydd | Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
| Dynodwyr | |
Roedd Methodistiaeth Gyntefig yn fudiad pwysig ym Methodistiaeth yn Lloegr a Chymru o tua 1810 hyd at yr Undeb Methodistaidd yn 1932.[1] Daeth y mudiad allan o wersyllgyfarfodau ("camp meetings") yn Mow Cop, ar y ffin rhwng Swydd Stafford a Swydd Gaer.
Roedd cyntefig yn golygu "syml" neu "yn ymwneud â chyfnod gwreiddiol"; gwelai'r Methodistiaid Cyntefig eu hunain yn arfer ffurf burach o Gristionogaeth. Er nad oedd yr enwad yn defnyddio'r enw "Wesleaidd" (yn wahanol i'r Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd), Wesleaidd oedd Methodistiaeth Gyntefig mewn diwinyddiaeth, mewn cyferbyniad â'r Methodistiaid Calfinaidd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ W. E. Farndale, The Secret of Mow Cop (Llundain: Epworth Press, 1950)