Memyn rhyngrwyd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Meme rhyngrwyd)

Defnyddir y term memyn rhyngrwyd i gyfeirio at gysyniad sy'n ymledu ar draws y rhyngrwyd.

Mae memynnau yn ffenomenau firaol a ledir gan eu bod yn cael eu hystyried yn ddiddorol, yn ddoniol, neu fel arall yn haeddu sylw, hyd yn oed os ydynt yn ddadleuol neu'n bryfoclyd, megis fideo'r gân "Friday" a ganir gan Rebecca Black. Caiff dolenni at femynnau eu rhannu gan ddefnyddwyr y rhyngrwyd trwy e-bost, negeseua sydyn, fforymau a negesfyrddau, rhwydweithio cymdeithasol ar-lein, a chymunedau ar-lein eraill.

Mae gwefannau a gysylltir â memynnau yn cynnwys 4chan, Digg, a reddit. Mae YouTube yn gartref i nifer fawr o fideos firaol, megis y fideo ar gyfer y gân "Never Gonna Give You Up" gan Rick Astley a ddefnyddir fel jôc baetio-a-newid o'r enw "Rickrolling".

Mathau[golygu | golygu cod]

Hysbysebu a marchnata[golygu | golygu cod]

Gall memynnau gael eu dechrau fel modd o hysbysebu a marchnata firaol. Enillodd y ffilm Snakes on a Plane boblogrwydd trwy'r dull hwn.

Hiwmor[golygu | golygu cod]

Bathodyn gyda'r geiriau All your base are belong to us, enghraifft o femyn sy'n seiliedig ar gamgyfieithiad digrif mewn gêm fideo

Mae nifer o femynnau yn jôcs mewnol cymunedau ar-lein sydd weithiau'n ymledu i'r rhyngrwyd ehangach. Gall memynnau o'r fath darddu o gyfryngau adnabyddus (megis "THIS IS SPARTA", sy'n gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gweld y ffilm 300) neu o darddiad anadnabyddus (megis "LOL WUT"). Oherwydd natur yr ail fath o femynnau, gallent ymddangos yn swreal i bobl sydd ddim yn gyfarwydd â hwy.