Reddit

Oddi ar Wicipedia

Gwefan newyddion cymdeithasol yw reddit. Mae defnyddwyr yn postio dolenni at gynnwys ar y rhyngrwyd neu yn postio hunan-byst gyda thestun gwreiddiol ganddynt. Gall defnyddwyr eraill yna "uwchbleidleisio" neu "lawrbleidleisio'r" pyst, ac mae'r pyst sydd mwyaf poblogaidd yn dangos ar hafan y wefan. Yn ogystal, gall defnyddwyr drafod y pyst ac ymateb i byst ei gilydd, gan ffurfio cymuned ar-lein. Gall defnyddwyr reddit greu adrannau eu hunain o'r wefan o'r enw "is-redditau" sy'n canolbwyntio ar bynciau penodol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]