Melo
Gwedd
| Math | dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 51,830, 55,985 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | America/Montevideo |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cerro Largo Department |
| Gwlad | Wrwgwái |
| Arwynebedd | 18.792921 km² |
| Uwch y môr | 80 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 32.3681°S 54.1697°W, 32.367819°S 54.166164°W |
| Cod post | 37000 |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Wrwgwái a phrifddinas Talaith Cerro Largo yw Melo. Saif cyrion gorllewinol y ddinas ar lednant o Afon Tacuarí a elwir Arroyo de los Conventos, ger y ffin â Brasil. Mae ganddi boblogaeth o ryw 50,000.
Sefydlwyd gorsaf filwrol Sbaenaidd yma yn 1795 gan y Capten Agustín de la Rosa. Fe'i enwyd ar ôl Pedro de Melo, Rhaglaw'r Río de la Plata.[1]
Ymhlith yr enwogion o Melo mae'r llenorion Juana de Ibarbourou, Emilio Oribe, ac Emir Rodríguez Monegal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Melo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Mehefin 2019.
