Juana de Ibarbourou

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Juana de Ibarbourou
Juana de Ibarbourou from Estampas de la Biblia.jpg
Ganwyd Juana Fernández Morales Edit this on Wikidata
8 Mawrth 1892 Edit this on Wikidata
Melo Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Gorffennaf 1979 Edit this on Wikidata (87 oed)
Montevideo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Wrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
Arddull barddoniaeth, telyneg Edit this on Wikidata
Gwobr/au Urdd Croes y De, Urdd yr Haul Edit this on Wikidata

Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Juana Fernández Morales de Ibarbourou (8 Mawrth 189215 Gorffennaf 1979) sy'n nodedig am ei thelynegion rhamantaidd a'i cherddi natur. Adnabuwyd hefyd gan yr enw Juana de América, sy'n dathlu ei henwogrwydd ar draws llên America Ladin.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Juana Fernández de Morales ym Melo, Wrwgwái, ar 8 Mawrth 1892. Treuliodd ei phlentyndod mewn pentref bach yng nghefn gwlad. Aeth i ysgol gwfaint ac yn ddiweddarach ysgol gyhoeddus. Priododd y Capten Lucas Ibarbourou yn 1914, a chawsant un mab. Symudodd y teulu i Montevideo, prifddinas y wlad, yn 1918.[2]

Barddoniaeth gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd ei cherddi cynharaf yn adran lenyddol y papur newydd La Razón. Denodd sylw yn fuan, a chyhoeddwyd rhifyn o'r cylchgrawn Archentaidd Caras y Caretas yn llawn ei cherddi. Gyda chymorth y llenor Archentaidd Manuel Gálvez, cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Las lenguas de diamante, gan wasg Editorial Buenos Aires yn 1919. Cyfansoddodd Ibarbourou ei barddoniaeth gynnar yn nhermau esthetaidd modernismo, ond heb efelychu ieithwedd addurnol y mudiad hwnnw. Mae Las lenguas de diamante yn nodi tröedigaeth at oslef felodaidd ac afieithus yn ei gwaith.

Anterth ei gyrfa ac enwogrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y 1920au, mabwysiadodd Ibarbourou lais closach yn ei cherddi, gan fyfyrio ar themâu serch, bywyd, a'r synhwyrau. Gwelir barddoniaeth o'r fath yn ei chasgliadau Raíz salvaje (1922) ac El cántaro fresco (1920).

Yn 1929, cynhaliwyd seremoni i roddi'r enw Juana de América iddi, dan arweiniad Juan Zorrilla de San Martín, José Santos Chocano, ac Alfonso Reyes ac ym mhresenoldeb dirprwyon o ugain o wledydd Sbaeneg yr Amerig.

Yn 1930 cyhoeddodd La rosa de los vientos, arbrawf ar fewnsyllu yn arddull yr avant-garde. Ysgrifennodd ddwy gyfrol o ryddiaith delynegol gyda themâu crefyddol, Loores de Nuestra Señora (1934) ac Estampas de la biblia (1934), yn sgil marwolaeth ei thad.

Ysgrifennodd cofiannau o'i phlentyndod, Chico Carlo (1944), a drama i blant, Los sueños de Natacha (1945). Ymunodd ag Academia Nacional de Letras yn 1947, ac etholwyd yn llywyd y Sociedad Uruguaya de Escritores yn 1950.

Iselder ysbryd a barddoniaeth alarus[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw mam Ibarbourou yn 1949, a chafodd ei tharo gan iselder ysbryd am flynyddoedd o ganlyniad, ac adlewyrchai'r digalondid hwn yn ei cherddi. Dychwelodd at farddoni yn ei chyfrol Perdida (1950), a ddilynwyd gan Azor (1953), Romances del destino (1955), Oro y tormenta (1956), ac Elegía (1967).

Diwedd ei hoes[golygu | golygu cod y dudalen]

Juana yn ei henaint (1974).

Bu farw ym Montevideo ar 15 Gorffennaf 1979 yn 84 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Lauren Applegate. "The Rebel and the Icon: Juana de Ibarbourou and the Emblem of Juana de América", Pacific Coast Philology cyfrol 49, rhif 1 (2014): tt. 58–77.
  2. (Saesneg) Juana de Ibarbourou. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Mai 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jorge Arbeleche, Juana de Ibarbourou (1978).
  • Ethel Dutra Vieyto, Aproximación a Juana de Ibarbourou (1979).
  • Esther Feliciano Mendoza, Juana de Ibarbourou (1981).
  • Jorge Oscar Pickenhayn, Vida y obra de Juana de Ibarbourou (1980).
  • Sylvia Puentes De Oyenard, Juana de Ibarbourou: Bibliografía (1988).
  • Isabel Sesto Gilardoni, Juana de Ibarbourou (1981).