Emilio Oribe

Oddi ar Wicipedia
Emilio Oribe
Ganwyd13 Ebrill 1893 Edit this on Wikidata
Melo Edit this on Wikidata
Bu farw24 Mai 1975, 25 Mai 1975 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, bardd, athronydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidad de la República Edit this on Wikidata
Gwobr/auGran Cruz de la Orden del Mérito Civil, Q121537149 Edit this on Wikidata

Bardd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Emilio Oribe (18931975).

Ganwyd ym Melo, ac astudiodd feddygaeth ym Montevideo, er na aeth erioed yn feddyg. Aeth i Frwsel i fod yn swyddog gwyddonol yn llysgenhadaeth Wrwgwái. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Alucinaciones de belleza, yn 1912. Dychwelodd i Wrwgwái i addysgu athroniaeth a gweithio i'r Cyngor Addysg Cenedlaethol. Dylanwadwyd ar ei farddoniaeth a'i ysgrifau gan athronwyr Groeg yr Henfyd a'r Oesoedd Canol, fel y gwelir yn Transcendencia y platonismo en poesía (1948) a Tres ideales estéticos (1958). Ymhlith ei weithiau eraill mae Teoría del nous (1934), Fugacidad y grandeza (1941), El mito y el logos (1945), La medusa de Oxford (1950), Ars magna: Poemas (1950), ac Antología poética (1965).[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) William H. Katra, "Oribe, Emilio (?–1975)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 28 Ebrill 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Isabel Sesto Gilardoni, Emilio Oribe: El poeta (Montevideo: Barreiro y Ramos, 1981).