Melin y Borth
Gwedd
Math | melin wynt |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Amlwch |
Sir | Cymuned Amlwch |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 17.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.4149°N 4.3347°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Mae Melin y Borth yn felin wynt ger porthladd Amlwch ar Ynys Môn.[1][2] Dyma'r felin talaf ym Môn ac fe gafodd ei chodi ym 1816. Mae hefyd y talaf o holl felinau gwynt Môn: 60 troedfedd, gyda 7 llawr a diametr o 30 troedfedd ar ei fwyaf. Fe'i codwyd yn wreiddiol ym 1816 gan deulu John Paynter a ddaeth o Gernyw. Ffermwr a gwerthwr ŷd ydoedd a phan fu farw yn 1843 ei nai John Wynne Paynter a etifeddodd y felin a'r tŷ (Maesllwyn).
Teulu'r Jonesiaid oedd yn gweithio'r felin o ddydd i ddydd, fodd bynnag a rhwng 1850 a 1895 nodir yr enw William Jones; gwyddys i'w fab (o'r un enw) gael ei ladd yn y felin pan drawyd hwnnw gan fellten yn 1867.
Melinau yn ardal Amlwch
[golygu | golygu cod]Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anglesey History - Windmills
- ↑ "Anglesey Windmills". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-13. Cyrchwyd 2014-04-30.