Erfinen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Meipen)
Erfinen
Yr erfinen neu'r feipen; luosog: erfin neu faip.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Brassicales
Teulu: Brassicaceae
Genws: Brassica
Rhywogaeth: B. rapa
Amrywiad: B. rapa var. rapa
Enw trienwol
Brassica rapa var. rapa
L.

Planhigyn yw meipen neu erfinen yn ne Cymru (Lladin: Brassica rapa; Saesneg: Turnip); sydd a'i wreiddyn yn cael ei fwyta gan ddyn ac anifail. Bwyteir rhai 10 – 20 cm gan anifeiliaid (hyd at 1 Kg o ran pwysau), er bod yn well gan ddyn ei fwyta'n feddalach ac yn felysach - pan fo tua 8 – 10 cm. Mae'r tu fewn yn wyn. Gwyn hefyd yw'r rhan allan sydd o dan y pridd (heb haul) er bod yr 1 – 5 cm uchaf naill ai yn lliw coch, porffor neu wyrdd. Mae'r dail hefyd yn fwytadwy a gwneir hynny'n aml yn yr Unol Daleithiau.

Dywedir mai o Rwsia y daw'r feipen yn wreiddiol a'i fod yn perthyn i deulu'r mwstard.[1]

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Ceir llawer o brotin a Fitamin C yn y gwreiddyn ond mae dail y feipen yn llawn o: Asid ffolig, Fitamin A, Fitamin C, Fitamin K a calsiwm. Gellir defnyddio dŵr yr erfinen (y dŵr a ddefnyddir i'w ferwi) fel ffisig ar gyfer y llais neu ddolur gwddw; mae hefyd yn gymorth i glirio'r anwyd.[2]

Mae rhai'n credu eu bont yn dda at asma.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Gwefan 'Health-Care-Clinic
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am erfinen
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato