Neidio i'r cynnwys

Mastodon (meddalwedd)

Oddi ar Wicipedia
Mastodon
Enghraifft o:free and open-source software, prosiect, Fediverse app Edit this on Wikidata
Iaithieithoedd lluosog Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi5 Hydref 2016 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Mawrth 2016 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://joinmastodon.org/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Mastodon yn feddalwedd cod agored am ddim ar gyfer gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol hunangynhaliol. Mae ganddo nodweddion meicroblogio, a gynigir gan nifer fawr o nodau annibynnol, pob un â'i god ymddygiad ei hun, telerau gwasanaeth, polisi preifatrwydd, opsiynau preifatrwydd, a pholisïau cymedroli.[1] [2] [3]

Mae pob defnyddiwr yn aelod o weinydd Mastodon penodol, sy'n gallu rhyngweithio fel rhwydwaith cymdeithasol ffederal, gan ganiatáu i ddefnyddwyr ar wahanol gweinyddion ryngweithio â'i gilydd. Bwriad hyn yw rhoi'r hyblygrwydd i ddefnyddwyr ddewis gweinydd yn ôl ei bolisïau, ond cadw mynediad at rwydwaith cymdeithasol ehangach. Mae Mastodon hefyd yn rhan o gasgliad llwyfannau'r Fediverse, sy'n rhannu protocolau i alluogi ddefnyddwyr Mastodon ryngweithio â defnyddwyr ar lwyfannau cydnaws,[4] megis PeerTube a Friendica.

A cartoon Mastodon mascot
Mascot rhwydwaith cymdeithasol Mastodon

Mae Mastodon yn cael ei ariannu yn dorfol ac nid yw'n cynnwys hysbysebion.

Mae masgot Mastodon yn anifail â thrwnc, sy'n debyg i fastodon neu famoth. Weithiau, darlunir y masgot â thabled neu ffôn clyfar. Defnyddiwyd "toots" (neu "tŵts") yn y gorffennol i olygu negeseuon ar y gwasanaeth, ond defnyddir "postiadau" bellach.[5] Crëwyd Mastodon gan Eugen Rochko a chyhoeddwyd y gwasanaeth ar Hacker News yn Hydref 2016.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Chan, Wilfred (2 Tachwedd 2022). "Mastodon gained 70,000 users after Musk's Twitter takeover. I joined them". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 Tachwedd 2022.
  2. ↑ Farokhmanesh, Megan (7 Ebrill 2017). "A beginner's guide to Mastodon, the hot new open-source Twitter clone". The Verge (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Tachwedd 2022.
  3. ↑ Wong, Joon Ian (6 Ebrill 2017). "How to use Mastodon, the Twitter alternative that's becoming super popular". Quartz (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Tachwedd 2022.
  4. ↑ "Mastodon launches their ActivityPub support, and a new CR!". ActivityPub.rocks (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Tachwedd 2022.
  5. ↑ Cameron, Dell (15 Tachwedd 2022). "Mastodon Has Officially Retired the 'Toot,' Its Version of the Tweet". Gizmodo (yn Saesneg). G/O Media Inc. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Tachwedd 2022. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2022.
  6. ↑ "Show HN: A new decentralized microblogging platform". 5 Hydref 2016. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2022.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]